Mae disgwyl i’r cyn-gflwynydd teledu, John Leslie, ymddangos gerbon llys heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 25) wedi’i gyhuddo o ymosod yn rhywiol ar fenyw dros ddegawd yn ôl.

Yn ôl y cyhuddiad, fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn Soho, Llundain ar Ragfyr 5, 2008, pan oedd hi’n 30 oed.

Mae disgwyl i John Leslie, 54, o Gaeredin, ymddangos gerbron Llys Ynadon San Steffan.

Fe fu John Leslie, sydd a’r enw llawn John Leslie Scott, yn cyflwyno rhaglen blant y BBC, Blue Peter am bum mlynedd rhwng 1989 a 1994.

Yn 1998 fe gymerodd lle Bradley Walsh fel prif gyflwynydd y gêm Wheel Of Fortune, cyn ymuno â chast This Morning flwyddyn yn ddiweddarach.