Bydd dwy gyfres o’r sioe deledu Love Island y flwyddyn nesaf yn ôl cwmni darlledu ITV.

Eleni ar ei anterth, mae’r sioe wedi cael ei gwylio gan ragor na chwe miliwn o bobol a bydd yn anelu i’r Affrig ac Ewrop yn 2020.

Bydd fila newydd yn cael ei ddefnyddio yn Ne’r Affrig yn gynnar yn 2020 cyn dychwelyd i Ewrop yn yr haf.

“Mae Love Island wedi profi eto fyth i fod yn fformat perffaith sy’n ymgysylltu gyda gwylwyr iau,” meddai un o benaethiaid ITV, Paul Mortimer 

“Mewn ymateb i archwaeth y gwylwyr, bydd swp newydd o bobol ifanc yn dod a rhamant hir ddisgwyledig a drama wedi’r Nadolig o’n lleoliad newydd a moethus.

Rhaglen “afrealaeth”

Daw hyn wrth i Aelodau Seneddol glywed am gynrychiolaeth “afrealistig” rhaglenni fel Love Island ar ITV yn ystod trafodaeth ar ddelwedd cyrff ac iechyd meddwl.

Mae yna gryn feirniadaeth wedi bod o’r gyfres wedi i un o’r cystadleuwyr mewn cyfres flaenorol Mike Thalassitis adael llyfr nodiadau gyda negeseuon i’w deulu wrth y lleoliad lle y’i canfuwyd yn farw mewn parc ger ei gartref yn Llundain.

Ac yn gynharach eleni bu fawr seren arall Love Island, Sophie Gradon, wedi iddi gymryd gormodedd o alcohol a’r cyffur cocên.

Hefyd mae prifathro mewn ysgol gynradd yn y De wedi rhybuddio rhieni fod gwylio’r rhaglen yn cael effaith niweidiol ar blant ifanc gan ei fod yn eu harwain i feddwl mai fel yma mae ffurfio perthynas.