Ar ddiwedd blwyddyn, mae’r rhestrau
10 uchaf blynyddol anochel yn ymddangos ym mhob twll a chornel. Dyma restr flynyddol Owain Schiavone o ganeuon cyfoes gorau’r flwyddyn…

Mae 2016 wedi bod yn flwyddyn gynhyrchiol o ran cerddoriaeth Cymraeg gyfoes. Un ar bymtheg o recordiau hir, gan gynnwys albyms gan rai o fandiau mwyaf y sin ar hyn o bryd – Cowbois Rhos Botwnnog, Y Bandana a Band Pres Llareggub. Mae yna ddigonedd o EPs a senglau ardderchog wedi cael eu rhyddhau hefyd, felly digon o ddewis eleni.

Gyda digon o gynnyrch newydd, mae cyfyngu i 10 cân yn her a dw i’n gwingo wrth sylwi nad oes gen i un o ganeuon newydd Geraint Jarman, The Gentle Good na CaStLeS ar y rhestr. Yn wahanol i’r rhestrau dw i wedi’u llunio dros y blynyddoedd diwethaf, does ’na ddim caneuon hollol amlwg i mi eu rhoi ar frig y rhestr chwaith, a dw i’n credu mai rhestr o 10 mwyaf cyfartal i mi ei lunio.

Felly, heb oedi ymhellach, dyma 10 uchaf 2016…

10.          Dan Glo – Bendith

Albwm Bendith ydy un o recordiau hir gorau 2016 heb amheuaeth. Mae’n edrych yn hyfryd, yn swnio’n hyfryd ac yn gyfuniad hyfryd o dalent Carwyn Colorama a thriawd Plu. ‘Danybanc’ ydy’r gân amlycaf sydd wedi bod yn ffefryn ar y tonfeddi, ond dw i wrth fy modd â ‘Dan Glo’. Mae’n swnio fel epig o gân allan o sioe gerdd… dw i ddim fel arfer yn hoff iawn o sioeau cerdd, ond mae hon yn dda. Dyma’r math o gân sy’n rhoi ias i chi wrth ei chlywed ac mae lleisiau Carwyn ac Elan yn plethu’n… wel, hyfryd.

9.            Promenad – Ysgol Sul

Mae yna sin hynod o iach wedi tyfu yn ardal Caerfyrddin dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn ganolog i’r cyfan mae Ysgol Sul gyda’u sŵn low-fi hudolus sydd heb os wedi dylanwadu ar grwpiau newydd fel Adwaith, Los Blancos ac Argrph. Mae hon i fyny yna gyda’u hit cyntaf nhw, ‘Aberystwyth yn y Glaw’, er yn llai tywyll ac yn fwy bywiog a hafaidd ei naws.

8.            Gormod o Ddyn – HMS Morris

Un o fy hoff fandiau diweddar, ac mae eu setiau byw bob amser yn gofiadwy. Maen nhw hefyd yn gallu sgwennu tiwn, a ‘Gormod o Ddyn’ ydy fy ffefryn o’r albwm, Interior Design,  a ryddhawyd ganddyn nhw ym mis Tachwedd. Mae’n grynodeb perffaith o sŵn pop seicadelig ac unigryw’r triawd lliwgar.

7.            Mantra – Tusk

Un o fy hoff ddarganfyddiadau o 2016. Tusk ydy prosiect Arron Hughes o Fethel, ac fe ryddhaodd ei EP cyntaf, Alligator, yn ddigidol ym mis Tachwedd. Mae’r EP i gyd yn ardderchog, ac mae’r gân Saesneg ‘Permission’, yn ffefryn arall. Mae ‘Mantra’ yn cynnwys llais cyfarwydd Iwan Fôn o Y Reu, ac mae’r sŵn pop electroneg amgen yn fachog ac yn tyfu arnoch chi fel rash.

6.            Suddo – Yr Eira

Weithiau, mae yna fand dw i isho gafael ynddyn nhw a rhoi coblyn o gic yn eu tînau… ac ar hyn o bryd mae Yr Eira’n un o’r rheiny. Y drwg ydi bod ganddyn nhw botensial anferthol ers rhai blynyddoedd bellach, ac yn fy marn i fe ddylen nhw fod yn cystadlu gyda Candelas, Sŵnami ac Yws Gwynedd fel prif fand Cymru, ond hyd yma dydyn nhw ddim. Dw i’m yn siŵr os mai ddim yn gigio digon, neu ddiffyg cynnyrch ydi’r rheswm am hyn, ond pan rydach chi’n clywed cân fel ‘Suddo’ rydach chi’n cofio beth sydd ganddyn nhw i’w gynnig. Beltar.

5.            Tywod – Argrph

Un arall o’r artistiaid newydd sydd wedi creu argraff fawr arna i yn ystod 2016. Dw i’n hoffi Argrph gan fod y sŵn yn wahanol iawn i unrhyw beth arall sydd ar gael yn y Gymraeg ar hyn o bryd, ond eto, mae yna rywbeth cyfarwydd yn y caneuon ar yr un pryd. Rhyddhawyd ‘Neb yn Cofio’, sy’n gân wych, fel rhan o Glwb Senglau’r Selar ddechrau’r flwyddyn, cyn i ‘Tywod’ ymddangos ar label newydd Decidedly Records ym mis Hydref. Mae yna rywbeth hiraethus, ond cynnes iawn yn hon – bendigedig.

4.            Canfed Rhan – Candelas

Doedd 2016 ddim y flwyddyn brysuraf i Candelas o ran cynnyrch newydd, er iddyn nhw gigio’n gyson a chynnal eu statws fel un ddau neu dri grŵp mwyaf y sîn. Ond, fe wnaethon nhw ryddhau un gân newydd ar gasgliad aml-gyfrannog I Ka Ching, 5, i ddathlu pen-blwydd eu label yn bump oed. Rhaid i mi gyfaddef mod i heb ystyried cystal cân oedd hon nes ei gweld hi’n cael ei pherfformio yn y gig bythgofiadwy hwnnw yn y Pafiliwn ar nos Iau Steddfod Genedlaethol Y Fenni. Stoncar o diwn arall gan yr hogia o Lanuwchllyn.

3.            Deud y Byddai’n Disgwyl – Cowbois Rhos Botwnnog

Mae’r disgrifiad ‘hir-ddisgwyliedig’ yn cael ei ddefnyddio’n llawer rhy aml wrth ddisgrifio recordiau newydd, ond yn achos pedwerydd albwm Cowbois Rhos Botwnnog, IV, mae’r defnydd yn deg. Bu pedair blynedd ers rhyddhau Draw Dros y Mynydd yn 2012, felly roedd croeso mawr i IV pan ymddangosodd ym mis Mawrth. Roedd ‘Deud y Byddai’n Disgwyl’ yn gyfarwydd i lawer cyn hynny diolch i fideo gwych a gynhyrchwyd ar gyfer cyfres Ochr 1 rhyw ddwy flynedd yn ôl – dyma’r Cowbois ar eu gorau. Gwerth nodi bod ‘Lle’r Awn i Godi Hiraeth’ o’r albwm yn agos iawn at gyrraedd y rhestr yma hefyd.

2.            Llenyddiaeth – Cpt Smith

Dyma chi fand, bois bach! Mae Cpt Smith ar radar y rhai sy’n dallt eu miwsig Cymraeg ers rhyw flwyddyn a hanner bellach, ond yn 2016 fe wnaeth y pedwarawd ifanc o Sir Gâr ryddhau eu EP cynta’, Propeller. Casgliad taclus o ganeuon sy’n profi eu potensial, a hon ydy’r gân agoriadol llawn o asbri ieuenctidd sy’n cydio ynddoch chi gerfydd eich gwar o’r eiliad gynta’.

1.            I Afael yn Nwylo Duw – Twinfield

Dw i’n derbyn bod hon yn ddewis braidd yn annisgwyl, ac na fydd pawb yn cytuno, neu wir yn hoffi’r gân yma o gwbwl, ond dw i’n meddwl ei bod hi’n grêt. Fedra’ i ddim egluro pam yn union dw i mor hoff ohoni, ond mae yna sawl rheswm. Dw i wrth fy modd ei bod hi’n fy atgoffa i o stwff Datblygu, a rhai o’r pethau amgen gwych oedd yn cael eu rhyddhau’n y Gymraeg ar ddechrau’r 1980au. Dw i’n hoffi’r defnydd o’r peiriant drymiau, y sŵn electroneg ddiwydiannol a’r adeiladwaith yn y gân. Ac yn fwy na dim, dw i wrth fy modd efo’r agwedd. Briliant.

Dw i’n derbyn, ac yn gobeithio’n wir, na fydd pawb yn cytuno â’r rhestr yma – gadewch eich sylwadau a dadleuon ynglŷn â’r caneuon sydd ar goll isod, ar bob cyfrif.