Mae cyfle i fandiau newydd o Gymru gystadlu am wobr o £1,000 a’r cyfle i berfformio ym Maes B yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 2017.
Mae modd i’r bandiau gyflwyno ceisiadau o heddiw ymlaen, gyda’r dyddiad cau ar ddydd Gwener, Chwefror 3.
Wedi hynny, fe fydd cyfres o rowndiau cynderfynol yn cael eu cynnal gyda’r rownd derfynol yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn ar Awst 9.
Chroma, grŵp o Bontypridd, ddaeth i’r brig o blith ugain o fandiau yn y gystadleuaeth eleni. Ers hynny maen nhw wedi cynnal cyfres o gigs ac wedi rhyddhau eu sengl gyntaf, sef ‘Claddu 2016’.
Beth arall mae’r band buddugol yn ennill?
– £1,000 i’r band buddugol
– Cyfle i berfformio set ym Maes B
– Cyfle i berfformio sesiwn ar Radio Cymru
– Cyfle i ffilmio ar gyfer rhaglen Ochr 1, S4C
– Erthygl yng nghylchrawn Y Selar.
– Bydd gwobr hefyd o £100 i gerddor gorau’r gystadleuaeth
– Bydd cystadleuwyr y rownd derfynol hefyd yn rhan o gynllun mentora gan Radio Cymru.
Mae rheolau ac amodau’r gystadleuaeth ar wefan Maes B lle mae modd i’r bandiau gyflwyno’u ceisiadau.