Mae’r BBC wedi gwahardd plant rhag bod yn rhan o’u cynulleidfaoedd stiwdio heb oruchwyliaeth oedolyn, mewn ymdrech i osgoi sgandal arall tebyg i un Jimmy Savile.
Mae’r newid i’r polisi yn rhan o ymateb i adroddiad gan y Fonesig Janet Smith ym mis Chwefror, oedd yn amlinellu’r methiannau difrifol wnaeth alluogi’r cyflwynwyr
Jimmy Savile a Stuart Hall i gam-drin plant a phobol ifanc.
Roedd yr adroddiad yn cyfaddef bod mwy o waith i’w wneud mewn rhai ardaloedd gan gynnwys creu awyrgylch lle mae staff yn fwy parod i leisio cwynion a bod rheolwyr yn gwneud mwy o ymdrech i wrando ar gwynion.
Wrth gyhoeddi’r adroddiad heddiw, dywedodd Cyfarwyddwr y BBC Tony Hall fod y gorfforaeth yn parhau i ymddiheuro i ddioddefwyr gafodd eu cam-drin gan Savile a Stuart Hall.
“Mae’r BBC yn lle gwahanol erbyn hyn, ond nid ydym yn bodloni ar bethau fel y maen nhw a dylai cyrff eraill ddim gwneud hynny chwaith. Wrth i ni symud i bennod newydd, rwyf am wneud yn siŵr bod BBC y dyfodol wedi dysgu o wersi’r gorffennol,” meddai.