Mae clwb yng Nghaerdydd wedi cyhoeddi na fydd noson Gwobr Cerddoriaeth Cymru yn cael ei chynnal yno nos Iau nesa’.

Mae golwg360 yn deall bod cwynion am lefelau sŵn o’r Depot yn Stryd Dumballs yn y brifddinas wedi codi gwrychyn pobol leol, a bod rhai yn dwyn achosion llys yn eu herbyn.

Mae gan Depot drwydded sy’n eu galluogi i gynnal digwyddiadau byw ar gyfer hyd at 500 o bobol tan 11 o’r gloch y nos, a bwriad sylfaenydd Gwobr Cerddoriaeth Cymru, y DJ Huw Stephens, oedd cynnal ei chweched noson wobrwyo flynyddol yno eleni.

Mae cyfarwyddwr y lleoliad, Nick Saunders wedi dweud wrth golwg360 eu bod yn cydweithio â thrigolion lleol i ddatrys unrhyw broblemau sydd wedi codi yn ddiweddar, ond nad oedden nhw am aros tan iddyn nhw gael gorchymyn a allai fod wedi peryglu’r noson yn gyfan gwbwl.

“Oherwydd nifer fach o gwynion am sŵn dros y misoedd diwetha’ yn y Depot, dydyn ni ddim am barhau â rhaglen lawn o gerddoriaeth fyw uchel fel roedden ni’n bwriadu’n wreiddiol,” meddai Nick Saunders.

“Mae’r lleoliad yn cydweithio’n agos ac yn llwyddianus â’r tîm trwyddedau yng Nghyngor Caerdydd, a dydyn ni ddim am beryglu’r gwaith da hwn.”

Yn hytrach na’r noson oedd wedi cael ei threfnu’n wreiddiol, fe fydd mynediad i’r digwyddiad drwy wahoddiad yn unig eleni, ac fe fydd unrhyw un sydd eisoes wedi prynu tocyn yn cael ei arian yn ôl.

Y wobr

Mae 12 o albymau ar y rhestr fer i dderbyn Gwobr Cerddoriaeth Cymru eleni, ac fe fydd yr enillydd yn cael ei ddewis gan 12 o feirniaid a’i gyhoeddi nos Iau, Tachwedd 24.

““Does dim ceffyl blaen eleni,” meddai Huw Stephens wrth golwg360, gan ddewis peidio â mynd i mewn i’r drafodaeth am Depot.

“Bydd y beirniaid yn cwrdd i drafod y rhestr fer, ac yn gwneud penderfyniad fydd yn cael ei gyhoeddi nos Iau nesaf ar y noson.”

Y dwsin ar y rhestr fer

9Bach – Anian

Alun Gaffey – Alun Gaffey

Cate Le Bon – Crab Day

Climbing Trees – Borders

Datblygu – Porwr Trallod

Meilyr Jones – 2013

Plu – Tir A Golau

Right Hand Left Hand – Right Hand Left Hand

Simon Love – It Seemed Like A Good Idea At The Time

Skindred (official) – Volume

Sŵnami – Swnami

The Anchoress – The Confessions Of A Romance Novellist