Gŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion
Mae trefnwyr yr ŵyl gerddorol boblogaidd ym mhentref Portmeirion wedi cyhoeddi eu bod yn gweithio ar gyfres o welliannau i’r safle a’r trefniadau ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Mae’r gwelliannau’n ymwneud yn bennaf â’r safle ei hun a threfniadau i deithio yno wedi i’r ŵyl ddioddef glaw trwm eleni a arweiniodd at gannoedd o geir yn methu â gadael y meysydd parcio sy’n ardaloedd sy’n dueddol o ddioddef gorlifiad.
Dywedodd trefnwyr Gŵyl Rhif 6 eu bod wedi treulio’r ddeufis diwethaf yn gwrando ar adborth ac yn cynllunio’r gwelliannau ar gyfer 2017.
‘Ymdeimlad agos’
Mae’r ŵyl wedi cadarnhau eu bod yn chwilio am leoliadau eraill ar gyfer y gwasanaeth parcio a theithio, ac am gydweithio â chwmnïau bysiau, trenau ynghyd ag annog teithwyr i rannu ceir wrth deithio yno.
Maen nhw hefyd am gyfyngu ychydig ar faint y safle er mwyn cadw “ymdeimlad agos yr ŵyl” a diogelu safleoedd Gwesty Portmeirion a Chastell Deudraeth gan osod lloriau i warchod y tir yn well.
“Y flwyddyn nesaf yw chweched pen-blwydd Gŵyl Rhif 6 ac rydym am ei wneud y gorau eto,” meddai’r trefnwyr.
“Nid hwn fydd y fwyaf erioed oherwydd byddwn yn lleihau’r capasiti ychydig i gadw ymdeimlad agos yr ŵyl a byddwn yn dyblu ein ffocws ar bopeth sydd wedi gwneud Gŵyl Rhif 6 yn ŵyl wych.”