Cerflun Aneurin Bevan yng Nghaerdydd
Ar ddiwrnod pen-blwydd Aneurin Bevan, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn lansio apêl am ddarnau o wybodaeth am ei fywyd a’i waith.

Mae gan yr Archif Wleidyddol Gymreig gopïau o lyfrau’r gwleidydd, gan gynnwys In Place of Fear, ond mae’n awyddus i gasglu mwy o ddeunyddiau erbyn ei ben-blwydd, pan fyddai wedi bod yn 120, yn 2017.

Mae Aneurin Bevan yn cael ei ystyried yn un o wleidyddion enwocaf a mwyaf dylanwadol Cymru gan wasanaethu fel Aelod Seneddol dros Lyn Ebwy rhwng 1929 a 1960, yn weinidog y Llywodraeth ac yn ddirprwy arweinydd y Blaid Lafur. Bevan hefyd oedd yn gyfrifol am sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.

Dywedodd Rob Phillips, Archifydd Cynorthwyol yr Archif Wleidyddol Gymreig: “Rydym yn chwilio am bob math o ddeunydd; ffotograffau, llythyron, taflenni, posteri, llyfrynnau ac ati i greu casgliad newydd erbyn ei 120fed ben-blwydd yn 2017.

“Byddwn yn awyddus iawn i glywed oddi wrth unrhyw un sydd â deunydd i gyfrannu i’r Llyfrgell”.