Dros y dyddiau diwethaf, mae ffrae wedi codi ar gyfryngau cymdeithasol ynglyn â rhestr fer Albwm Cymraeg y Flwyddyn.

Cafodd rhestr fer Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2020 ei gyhoeddi ddydd Gwener (Mehefin 19) ar y cyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol a BBC Radio Cymru.

Dechreuodd y ffrae ar Trydar gyda Gai Toms, oedd wedi rhyddhau’r albym Orig gyda Gai Toms a’r Banditos, yn cwestiynu sut roedd y panel wedi mynd ati i ddewis y rhestr fer.

“Dim y wobr sy’n fy mhoeni, ond y dirgel o sut mae panel yn gwrando ar albym.

“Ac ydyn nhw’n gwerthfawrogi’r stori tu ôl i’r caneuon/cynhyrchiad/celf, yntai jest mynd efo’r glust?! I mi, mae album yn gyfanwaith ar sawl lefel. Ond hefyd dwi yn gwerthfawrogi gorthrychedd.”

Ffrydio

Wrth i’r ffrae ddatblygu, mae Gai Toms wedi cwestiynu a oedd y rhestr fer wedi ei seilio ar ffrydio yn unig.

Ond mae golwg360 yn deall bod y panel wedi rhoi ystyriaeth i fwy na dim ond ffrydio’r albym wrth ddewis y rhestr fer.

Ymysg y beirniaid roedd Elan Evans, Siân Eleri Evans, Huw Foulkes, Gwenan Gibbard, Dyl Mei, Siân Meinir, Gwyn Owen a Neal Thompson.

Bydd enillydd y wobr yn cael ei gyhoeddi yn ystod Gŵyl AmGen rhwng Gorffennaf 30 ac Awst 2.

Yr artistiaid a’r albymau sydd ar y rhestr fer yw:

  • 3 Hŵr Doeth – Hip Hip Hwre
  • Ani Glass – Mirores
  • Carwyn Ellis & Rio 18 – Joia!
  • Cynefin – Dilyn Afon
  • Georgia Ruth – Mai
  • Gruff Rhys – PANG!
  • Gwilym Bowen Rhys – Arenig
  • Los Blancos – Sbwriel Gwyn
  • Llio Rhydderch – Sir Fôn Bach
  • Mr – Amen
  • Yr Ods – Iaith y Nefoedd

Orig

Mae’r albym Orig, gan Gai Toms a’r Banditos yn dathlu a chofio bywyd yr ymaflwr codwm (wrestler) proffesiynol a pherfformiwr gwerinol Cymreig, Orig Williams, fu farw ar Dachwedd 12 2009.

Roedd Orig Williams hefyd yn aelod o’r RAF, yn bêl-droediwr talentog ac yn ddyn busnes uchelgeisiol.

Mae’r albwm yn tywys y gwrandawr ar daith drwy fywyd Orig Williams ac wrth berfformio’r albwm yn fyw, roedd Gai Toms yn gwisgo fel persona ymlafwr codwm Orig Williams, sef El Bandito, gan roi teyrnged gerddorol a gweledol iddo.

Ymateb yr Eisteddfod

Mae’r Eisteddfod bellach wedi ymateb i gwynion Gai Toms, gan ddweud bod “y sylwadau diweddar ar Trydar yn tynnu oddi ar lwyddiant y rheini sydd wedi cyrraedd y rhestr fer”.

“Roedd Gai Toms yn feirniad yn 2015 ac mae wedi cyrraedd y rhestr fer ddwywaith… nid yw’r canllawiau wedi newid ers hynny,” meddai llefarydd ar ran yr Eisteddfod.

“Roedd bron i 40 albwm yn gymwys ar gyfer y wobr eleni, ac fe ddewisodd panel annibynnol o feirniaid, sy’n cynrychioli genres cerddorol amrywiol ac sy’n arbenigwyr yn eu meysydd, restr fer o 11.

“Rydym yn teimlo bod y sylwadau diweddar ar Trydar yn tynnu oddi ar lwyddiant y rheini sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, ac rydym yn awyddus i hyn ddod i ben fel bod pobol yn cael cyfle i fwynhau gwrando ar y gerddoriaeth sydd wedi dod i’r brig.”

Cysylltodd golwg360 â Gai Toms, ond nid oedd am wneud sylw pellach.