Bydd fideos cerddoriaeth ar-lein rhywiol a threisgar yn derbyn sgôr oedran er mwyn amddiffyn plant rhag cynnwys amhriodol, ar ôl i labeli recordio mawr gefnogi cynllun Llywodraeth San Steffan.
Mae Sony Music, Universal Music a Warner Music wedi cytuno i gyflwyno fideos pop i Fwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain (BBFC) cyn eu llwytho ar wefannau YouTube a VEVO, yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus.
Cafodd y cynllun ei lansio gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ym mis Hydref yng nghanol pryder cynyddol ynglŷn â chynnwys rhywiol mewn fideos gan gantorion poblogaidd, gan gynnwys Miley Cyrus a Rihanna.
Cafodd cân Robin Thicke, ‘Blurred Lines’, a ryddhawyd yn 2013, hefyd ei feirniadu’n am ei eiriau anweddus a fideo a oedd yn cynnwys modelau benywaidd yn dawnsio’n noeth.
Cyflwyno
Hyd yn hyn, mae 132 o fideos cerddoriaeth wedi cael eu cyflwyno i’r BBFC gan labeli cerddoriaeth. Mae’r BBFC wedi awgrymu y dylai pobl ifanc fod yn o leiaf 12 i wylio 56 ohonynt a 15 i wylio 53 arall.
Fideo Dizzee Rascal i’r gân ‘Couple Of Stack’ yw’r unig un sydd wedi derbyn sgôr oedran o 18 – a hynny oherwydd y “trais gwaedlyd” a’r “iaith gref iawn”.
Croesawodd David Cooke, cyfarwyddwr y BBFC, y cytundeb, gan ddweud ei fod yn “edrych ymlaen at adeiladu ar lwyddiant y cynllun peilot”.