Mae ITV wedi addo ad-dalu costau pleidleiswyr yn y gyfres Britain’s Got Talent, am iddyn nhw gamarwain y gynulleidfa mewn perthynas â’r ci ddaeth i’r brig.
Enillodd Jules O’Dwyer a Matisse y gyfres gan guro’r consuriwr Raven, a ddaeth yn ail, a Chôr Glanaethwy a ddaeth yn drydydd.
Ond daeth i’r amlwg fod ail gi wedi cael ei ddefnyddio fel rhan o’r act fuddugol, pan nad oedd hynny wedi’i egluro i’r rheiny oedd yn pleidleisio tros Matisse.
Dywed ITV y bydd y gynulleidfa yn gallu hawlio’r arian o’r galwadau ffôn yn ôl, neu ei roi at elusen.
Ofcom
Daeth y corff rheoleiddio, Ofcom, i’r casgliad fod ITV wedi torri rheolau darlledu yn ystod y rownd derfynol.
Derbyniodd y rheoleiddiwr 1,175 o gwynion yn dilyn y canlyniad. Mewn datganiad, dywedodd ITV nad oedden nhw wedi bwriadu camarwain y gynulleidfa.
Dim ond pleidleiswyr ar gyfer Jules a Matisse – ac nid y ddau act arall yn y tri terfynol – fydd yn cael hawlio’u harian yn ôl. Roedd mwy na 13 miliwn o bobol wedi gwylio’r rownd derfynol, ac fe gafodd Jules a Matisse 22.6% o’r pleidleisiau.