Mae’r actor Stephen Lewis, oedd yn adnabyddus am ei rôl yn y rhaglen gomedi On The Buses, wedi marw yn 88 oed.

Bu farw’r actor mewn cartref nyrsio yn Wanstead, dwyrain Llundain, ddydd Mercher.

Roedd “mewn hwyliau da iawn” hyd y diwedd, meddai ei nith Rebecca Lewis, gan ychwanegu ei fod wedi bod yn y cartref gofal am oddeutu tair blynedd.

Ganed Stephen Lewis yn Poplar yn nwyrain Llundain ac yn ogystal â’i rôl fel Cyril ‘Blakey’ Blake yn On The Buses, roedd hefyd yn adnabyddus am actio yn Last of the Summer Wine.