Sgwrs a Chân gyda Gildas
Mae’r arlwy cerddorol ar faes yr Eisteddfod eleni yn addo bod yn un bywiog unwaith eto, gyda Chaffi Maes B, y Tŷ Gwerin, Llwyfan y Maes a sawl stondin arall yn sicrhau y bydd digon o diwns i’w clywed.

Fe fydd Golwg360 hefyd yn dychwelyd gyda’n heitemau Sgwrs a Chân, wrth i ni fachu gair bach sydyn â rhai o artistiaid amlycaf Cymru yn ystod yr wythnos yn ogystal â chlywed ambell gân ganddyn nhw.

Yn ystod Eisteddfod yr Urdd Caerffili eleni fe fuon ni’n sgwrsio a gwrando ar Gildas, Plu, Calan, Y Ffug, Roughion a Gareth Bonello, gyda’r fideos yn cael eu gwylio cannoedd o weithiau ar YouTube.

Mi fydd gennym ni sawl Sgwrs a Chân i ddod o’r Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod yr wythnos nesaf hefyd – cadwch lygad allan ar Golwg360 am ambell sesiwn arbennig!

Yn y cyfamser, dyma gyfle arall i chi wylio rhai o’r cyfweliadau a chaneuon o Gaerffili:

Gildas

Plu

Calan

Y Ffug

Roughion

Gareth Bonello