Owain Schiavone sy’n crynhoi y gigs nadoligaidd niferus eleni…

Mae’r Nadolig bob amser yn esgus da am barti, ac mae parti ar ffurf gig Nadolig wedi dod yn draddodiadol mewn rhai ardaloedd bellach.

Wedi dweud hynny, mae’n ymddangos i mi bod mwy nag arfer o gigs Nadoligaidd eleni, ac efallai fod hynny’n adlewyrchiad i raddau o’r holl gynnyrch newydd sydd wedi ymddangos erbyn y Nadolig.

Mae’r partion eisoes wedi dechrau gyda gig lansio albwm Candelas yn Y Bala’n llwyddiant ysgubol wythnos diwethaf – a chyfle i wrando ar recordiad C2 ar-lein bellach hefyd.

Mae criw Nyth yn y brifddinas hefyd eisoes wedi cynnal eu parti Nadolig blynyddol yn y Gwdihŵ, ac roedd gig Menter Iaith Abertawe nos Iau yn edrych yn llawn yn Nhŷ Tawe.

Bu’n flwyddyn brysur o gigs i griw 4a6 yng Nghaernarfon, ac maen nhw wedi coronni eu blwyddyn yng Nghlwb Canol dre nos Iau gyda leinyp gwych o Ifan Dafydd, Yr Ods ac Y Reu.


Ond mae digon eto i ddod, felly dyma grynhoi’r hyn sydd ar y gweill ar gyfer Gŵyl y Gigs….

Sadwrn 27 Rhagfyr – Neuadd Y Farchnad, Crymych: Mafon a Menter Iaith Sir Benfro yn cyflwyno Sŵnami, Y Bandana, Breichiau Hir, Ysgol Sul. 20:00, £7/£8

Sadwrn 27 Rhagfyr – Neuadd Ogwen, Bethesda: Parti Nadolig Nyth / Pesda Roc gyda Cowbois Rhos Botwnnog, Memory Clinic, Palenco, Delweddau Hen Dduwiau. 19:00, £7

Sul 28 Rhagfyr – Y Parrot, Caerfyrddin: Gig Cymdeithas yr Iaith / Achub y Parrot yn cyflwyno Bromas, Y Ffug Uumar a Castro. 19:30, £5