Gŵyl Rhif 6
Gwenllian Elias fu’n profi’r bwrlwm o gerddoriaeth, comedi, ffilm a sgyrsiau yng Ngŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion…
Dros y penwythnos, fe wnaeth Gŵyl Rhif 6 feddiannu pentref Eidalaidd Portmeirion ger Porthmadog a’i droi yn fwrlwm o gerddoriaeth, comedi, ffilm a sgyrsiau.
Hon yw’r drydedd flwyddyn i’r ŵyl gael ei chynnal ac yn ôl y son, roedd 14,000 o bobol wedi dod draw’r nos Sadwrn a’r trefnwyr wedi rhedeg allan o wristbands am nad oedden nhw’n disgwyl i gymaint o bobl ddod i’r ŵyl.
Gŵyl sy’n dathlu amrywiaeth yw Rhif 6. Gŵyl lle mae rhywbeth annisgwyl a hudolus yn disgwyl amdanoch o gwmpas bob cornel. A gŵyl sydd wedi ei lleoli yn un o’r llefydd prydferthaf ar y blaned. Dim syndod o gwbl felly i’r tocynnau werthu fel slecs.
Nos Wener, y triawd gwerin-electro London Grammar oedd y prif atyniad. Dyma fand sydd wedi gwneud enw mawr iddyn nhw’u hunain yn y blynyddoedd diwethaf, a hynny’n amlwg wrth i’r gynulleidfa gyd-ganu’r caneuon egnïol, teimladwy hefo nhw. Cyn hynny, bu Bonobo yn cynnig set hamddenol electronig o dan olau’r lleuad.
Ar ôl i’r cymylau gilio amser cinio ddydd Sadwrn, fe wnaeth yr haul poeth dywynnu ar yr ŵyl am weddill y penwythnos.
Steve Mason oedd un o uchafbwyntiau’r pnawn. Roedd perfformiad yr Albanwr yn agos iawn i fod yn berffaith gyda bob dim, o leoliad hudolus Neuadd y Dre i belydrau’r haul yn sgleinio trwy’r ffenestri enfawr a chyfeiliant yr ensemble, yn cyfrannu ato. Roedd Tom Odell yn uchafbwynt arall, gyda’i fop o wallt melyn yn bownsio’n ddi-baid uwchben ei biano trwy gydol ei berfformiad egnïol.
Draw ar lwyfan y Clough, roedd bandiau fel Candelas, Cate Le Bon a Geraint Jarman yn rhoi blas o’r Sin Roc Gymraeg. Roedd y lle’n orlawn ar gyfer slot Jarman, a phobol o bob oed yn gweiddi canu ‘Mae Rhywbeth Bach yn Poeni Pawb o Hyd’ a ‘Gwesty Cymru’ wrth iddo neidio o un pen y llwyfan i’r llall, yr un mor egnïol ag erioed.
Mewn pabell ger mynedfa’r pentref, roedd cast a chyfarwyddwr y ffilm Twin Town wedi dod at ei gilydd i ddarllen y sgript wreiddiol. Pan gerddodd Rhys Ifans a’r criw ymlaen, fe aeth y lle’n wyllt. Os fyddai gan y babell do, mi fyddai wedi chwythu. A phan ofynnodd Kevin Allen, “Does anybody know ‘Myfanwy’?”, roedd clywed y gynulleidfa yn canu’r clasur Cymreig sy’n ymddangos yn y ffilm, dan arweiniad Sue Rodick, yn sbeshal iawn.
Ar ddiwedd y noson, roedd ‘Calon Lan’, ‘Oes Gafr Eto’ a ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ i’w clywed yn atseinio y tu mewn i waliau gwesty Castell Deudraeth, wrth i bobol heidio yno am fwy o ganu Cymraeg. Yna, fe gymrodd Geraint Lovgreen yr awenau a diddanu hefo ’chydig o ganeuon y Beatles ar y grand piano cyn i bethau ddirwyn i ben mewn steil.
Y ddeuawd electronig Pet Shop Boys oedd yn cloi’r ŵyl ar y nos Sul. Roedd yr holl oleuadau lliwgar, gwisgoedd ecsentrig a’r dawnswyr yn creu perfformiad cofiadwy iawn ond, i mi, ddoedden nhw ddim yn medru tynnu’r lle lawr fel y baswn wedi gobeithio i brif berfformiad yr ŵyl ei wneud. Er hynny, pan gamodd Côr y Brythoniaid ar y llwyfan hefo nhw i ganu ‘Go West’, roedd gwen lydan ar wyneb pawb ac fe orffennodd y sioe ar nodyn uchel iawn.
Dwi’n edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf yn barod!