Miriam Elin Jones
Gadewch i’r gorffennol aros yno, meddai Miriam Elin Jones …

Yr wythnos diwethaf, es i i weld McBusted.

Does gennyf ddim cywilydd cyfaddef hyn. Busted oedd fy hoff fand yn ystod fy arddegau, ac roeddent yn gyflwyniad o fath i’r bandiau roc ac indie rwyf yn hoff ohonynt erbyn heddiw.

Pan gyhoeddwyd eu bod yn ymuno gyda McFly ac yn mynd ar daith, doedd dim angen ailystyried y peth – roeddwn i’n mynd i fod yn rhan o’r gynulleidfa yno yng Nghaerdydd.

Dychwelais i gyfnod fy arddegau cynnar a theimlo’n 14 oed unwaith eto. Daeth yr hen grys-T Busted allan o gefn y wardrob, a’r tro hwn, roeddwn yn ddigon hen i archebu fy mheint fy hun.

Hiraeth yn cydio a chnoi

Ymddengys bod gweld bandiau’n ail-ffurfio yn nodwedd gyffredin yn y mileniwm newydd.

Credwch neu beidio, mae hi’n ddeng mlynedd ers i Take That ail-ffurfio, ac erbyn hyn, mae’r rhaglen The Big Reunion yn ein tywys ni ar daith nostalgic gyda nifer o fandiau pop o’r 90au yn cyfarfod am y tro cyntaf ers blynyddoedd meithion a dychwelyd am bymtheg munud arall o enwogrwydd.

Er bod gennyf nifer o gasetiau di-ri o’r cyfnod hwn, rwyf yn falch o ddweud bod fy mlas cerddorol – a cherddoriaeth gyfoes yn gyffredinol – wedi newid cryn dipyn ers hynny.

Roeddwn wrth fy modd gyda Mega (mae ymweld â Soundcloud Rhydian Bowen Phillips yn dipyn o guilty pleasure o hyd), ond dydw i ddim am eu gweld nhw’n dod yn eu holau yn ddynion yn hytrach na bechgyn, yn llawer callach ac aeddfetach.

Oni ddaeth Eden yn eu holau yn lled ddiweddar? Clywid dim mwy am y peth, a diolch byth am hynny. Rwyf yn dal i fod yn gallu canu pob gair o gytgan cofiadwy ‘Paid â Bod Ofn’, ond mae dyddiau Hotel Eddie yn bell, bell yn y gorffennol.

Ac mae’r cyffro mawr ynglŷn â gweld H a’r Band (Edward H minws un ohonynt) unwaith eto yng Ngŵyl Nôl a Mla’n yn Llangrannog yn fy mhoeni braidd.

Pwysig symud ymlaen

Does dim modd gwadu dylanwad Edward H ar y sin cerddorol Gymraeg. Mae eu caneuon yn anthemig ac yn dal i fritho tonfeddi Radio Cymru yn ddyddiol (glywsoch chi am y gig yna adeg ‘Steddfod Dinbych…?) .

Fodd bynnag, a fydd gan y criw’r un hud a hwythau’n perfformio gydag un aelod amlwg ar goll? Oni fyddai fel y tri o S Club 7 sy’n dod at ei gilydd i berfformio act ddigon diflas yng nghlybiau nos ac undebau myfyrwyr Prydain? A beth am ymgais Five i ddychwelyd fel ‘Four’?

Gwyddwn nad oedd Charlie yn dymuno ail-ymuno gyda Busted ar gyfer y daith newydd hon ddeng mlynedd wedi iddynt wahanu, a phe na bai am gymorth McFly, dwi’n amau byddai aduniad Matt a James wedi bod yn llwyddiannus o gwbl.

Dydw i ddim yn bychanu camp Edward H, ond mae’n rhaid i ni dderbyn bod dyddiau cynnar y band yn gyfnod na ddaw byth yn ôl.

Er eu bod yn siŵr o berfformio’r hen glasuron, bydd e byth yr un peth. Mae pethau wedi newid yn aruthrol ers eu hoes nhw. Mae’n amhosib gweld sut all crefu am ‘Oes Aur’ fod o les i’n sin gerddorol ni heddiw.

Gobeithiaf wir y bydd yna’r un gefnogaeth i Al Lewis ar y nos Wener ac i Endaf Gremlin a fydd yn perfformio cyn H a’r Band ar y nos Sadwrn yng Ngŵyl Nôl a Mla’n, gan eu bod yn dangos y sefyllfa fel y mae hi heddiw.

Yma, mae’r crys-T Busted yn ôl yng nghefn y wardrob a’r atgofion yno i bara am byth, ond mae sesiwn C2 diweddaraf I Fight Lions a chaneuon newydd Tymbal yn fwy o eli i’r glust na ‘Air Hostess’ a ‘Year 3000’ erbyn hyn. Wedi’r cwbl, dydw i ddim am fod yn 14 oed am byth.