Y Super Furries, un o'r bandiau gafodd lwyddiant yn canu'n ddwy-ieithog
Owain Schiavone sy’n dadlau fod modd i grwpiau Cymraeg gyrraedd cynulleidfaoedd rhyngwladol trwy ganu mewn Cymraeg…
Mi ofynnodd gohebydd cerddoriaeth Cymreig gwestiwn i mi ddechrau’r wythnos – “wyt ti’n teimlo fod dal angen i artistiaid Cymraeg ganu’n Saesneg os ydyn nhw am i’w cerddoriaeth gael ei glywed tu hwnt i Gymru?”
Roedd o’n gwestiwn digon diddorol a bu’n rhaid i mi ei ystyried am gwpl o funudau cyn ateb, “yn bersonol dwi ddim yn credu fod hynny wedi bod yn wir erioed, ond ar un pryd roedd llawer o bobl yn credu ei fod o.”
Wrth ateb ro’n i’n meddwl yn arbennig am y cyfnod yna tua chanol y 1990au lle cafwyd y ffenomena Cŵl Cymru, a gwaddol hynny ar y sin gerddoriaeth Gymraeg cyfoes.
Yn y cyfnod hwnnw fe welwyd grwpiau fel Super Furry Animals a Catatonia yn enwedig (dwyieithog oedd Gorkys Zygotic Mynci erioed) yn cael llwyddiant ysgubol trwy ail-ddyfeisio eu hunain fel grwpiau dwyieithog, ar ôl cyrraedd y brig gyda bandiau Cymraeg cyn hynny.
Dwi’n credu fod llawer iawn o fandiau Cymraeg wedi gweld hyn a meddwl ‘wel, os ydyn nhw’n gallu gwneud hyn, yna mi fedrwn ni hefyd’. Y canlyniad oedd llwyth o fandiau dwy-ieithog gydag enwau fyddai’n gweithio yn y ddwy iaith yn trio efelychu’r enwau mawr.
Cafodd rhai beth llwyddiant – Topper yn un o fy hoff grwpiau o’r cyfnod, a Melys yn un arall cyfarwydd iawn i mi yn Nyffryn Conwy. Ond ofer oedd ymdrechion llawer o grwpiau eraill achos y gwir amdani ydy fod y Furries, Catatonia a Gorkys yn reit arbennig, ac yn digwydd bod yn y lle iawn ar yr amser iawn ac efo rheolwyr da i fanteisio ar y cyfleoedd.
Hyder
Mae’r meddylfryd yma o ‘drio’i gwneud hi trwy ganu’n Saesneg’ wedi cymryd peth amser i redeg ei gwrs, ond dwi’n dechrau teimlo’n bod ni’n cyrraedd pwynt lle mae artistiaid yn teimlo’n ddigon hyderus i ganu’n Gymraeg gan wybod os ydyn nhw’n ddigon da, yna bydd pobl yn sylwi arnyn nhw.
I fod yn glir, does gen i ddim problem efo grwpiau’n canu’n Saesneg neu’n ddwyieithog – mi wnaeth SFA a Catatonia lot fawr i hybu ymwybyddiaeth o’r Gymraeg ar lwyfan rhyngwladol, ac yn fy marn i wedi gwneud mwy o les i’r iaith na drwg trwy ryddhau cerddoriaeth yn y ddwy iaith. Dwi’n gwybod am bobl sydd wedi cymryd diddordeb yn y sin Gymraeg, a hyd yn oed dysgu Cymraeg ar ôl clywed cerddoriaeth y grwpiau yma.
Ond mae angen i artistiaid fod yn onest ynglŷn â pham maen nhw’n gwneud hynny – tydi’r ddadl ‘mae sgwennu caneuon yn Gymraeg a Saesneg yn dod yn naturiol i ni’ ddim yn dal dŵr efo fi ym mhob achos, er ei fod yn wir efo rhai mae’n siŵr.
Byddai’n lot gwell gen i glywed pobl yn deud, ‘wel, mae’r gytgan yma’n Saesneg gan bod ni’n meddwl fod gwell cyfle i ni gael ein chwarae ar 6 Music efo cytgan Saesneg’. Strategaeth hyrwyddo doeth ydy hynny wedyn.
Mantais
I ddod yn ôl at y pwynt, dwi’n credu ar hyn o bryd fod canu yn y Gymraeg yn fwy o fantais nag o anfantais os am gael eich clywed tu hwnt i Gymru fach. Mae pobl yn llawer mwy parod i dderbyn cerddoriaeth, a chelfyddyd arall, mewn iaith sy’n estron iddyn nhw erbyn hyn – edrychwch ar boblogrwydd cyfresi noir Llychlynnaidd fel esiampl y tu hwnt i gerddoriaeth.
Ar un adeg roedd rhaid i chi apelio at John Peel i gael eich chwarae ar Radio 1, ond erbyn hyn mae llawer o DJs ar lefel Prydeinig yn ymwybodol o gerddoriaeth Gymraeg, ac yn barod i chwarae caneuon Cymraeg.
Yn sicr mae cael boi da fel Huw Stephens yn cyflwyno ar Radio 1 yn help mawr, ond mae gorsafoedd fel 6 Music yn agor y drws ac yn croesawu pethau sydd ddim y siartiau hefyd.
Mae pobl hefyd yn chwilio am bethau sy’n unigryw’r dyddiau yma, ac yn hoffi pethau nichè. Mae’r chwyldro digidol wedi ei gwneud yn haws i bobl ddiddori mewn pethau nichè wrth gwrs, ac mae’n llawer haws cyrraedd clustiau newydd nag yr oedd hi.
Fel rhywun sy’n ymddiddori mewn hanes cerddoriaeth Gymraeg, mae’n werth nodi fod recordiau Cymraeg yn bethau gwerthfawr dros ben wrth i’r blynyddoedd basio hefyd.
Does dim ond angen cadw golwg ar wefannau gwerthu, neu ddarllen eitem Î-Bê yn Y Selar i weld hynny gyda recordiau Cymraeg Meic Stevens, Heather Jones, Tecwyn Ifan, Brân ac eraill yn gallu gwerthu am gannoedd.
Am wn i, y neges sydd gen i ydy mai penderfyniad band neu artist ydy pa iaith i gyfansoddi ynddo, ond peidiwch meddwl fod rhaid i chi ganu’n Saesneg i gyrraedd cynulleidfa ehangach – i’r gwrthwyneb yn fy marn i.
Gallwch ddilyn Owain at Twitter ar @owainsgiv.