Sol3 Mio
Mae tri myfyriwr o Seland Newydd ddaeth yn sêr opera dros nos ar ôl ffurfio er mwyn gallu astudio yng Nghymru wedi sicrhau cytundeb recordio yn y DU.

Daeth  llwyddiant y grŵp Sol3 Mio’n ychydig o syndod iddyn nhw i gyd, ar ôl iddyn nhw ddod at ei gilydd i ffurfio’r grŵp opera dim ond er mwyn casglu ychydig o arian ar gyfer eu cwrs coleg.

Roedd y brodyr Pene ac Amitai Pati, a’u cefnder Moses Mackay, i gyd wedi cael eu derbyn yn unigol i astudio yn Academi Llais Rhyngwladol Cymru yng Nghaerdydd.

Ond ar ôl i’r triawd sylwi y byddai eu hyfforddiant dan y tenor enwog Dennis O’Neill yn costio hyd at £60,000 fe benderfynwyd ffurfio’r grŵp er mwyn codi ychydig o arian ychwanegol.

Fe deithion nhw o gwmpas ysgolion a neuaddau yn Seland Newydd yn perfformio i ddechrau, cyn canu ar raglenni teledu wrth geisio talu costau eu hastudiaethau.

Ac ar ôl i’w talent ddenu sylw gartref fe ddaethon nhw’n un o artistiaid mwyaf Seland Newydd – gan gynnwys gwerthu mwy o recordiau na’r gantores ifanc Lorde sydd wedi bod yn llwyddiant rhyngwladol yn ddiweddar.

Mae’r ddau frawd sy’n canu tenor a’u cefnder sy’n fariton yn hanu o Samoa’n wreiddiol, ac fe symudon nhw i Seland Newydd pan yn ifanc.

Ac ar ôl i’w halbwm nhw werthu mwy nag unrhyw artist arall yn Seland Newydd yn 2013 mae’r tri nawr wedi arwyddo gyda Decca Records yn y DU, label glasurol sydd yn cynnwys Bryn Terfel a Katherine Jenkins ymysg eu hartistiaid.

Bydd albwm cyntaf Sol3 Mio yn cael ei ryddhau ym Mhrydain ym mis Ebrill.