Fideo 'Stuntman' gan Hud - un o ddewisiadau Owain
Owain Schiavone sy’n trafod rhai o fideos cerddorol y flwyddyn a fu.

Ddwy flynedd nôl mi wnes i sgwennu darn am fideos cerddorol 2011, gan ddewis fy mhump uchaf o fideos cerddorol Cymraeg y flwyddyn.

Llynedd, nes i ddim.

Y rheswm syml, a reit drist, am hynny oedd gan nad o’n i wedi dod ar draws rhyw lawer o fideos yn 2012.

Dwi’n deud trist gan fy mod i’n teimlo fod fideo yn ffordd effeithiol iawn o hyrwyddo cerddoriaeth, yn enwedig yn yr oes ddigidol yma lle mae YouTube a chyfryngau cymdeithasol eraill yn gwneud lledaenu fideos yn rhwydd iawn.

Mae’n siŵr bod ‘na fideos yn 2012 cofiwch (ac mae croeso i chi roi dolenni yn y sylwadau isod), ond eu bod nhw heb ddod i fy sylw i fel rhai’r flwyddyn flaenorol.

Llenwi bylchau

Er bod ‘5 uchaf 2011’ yn fideos annibynnol yn hytrach na rhai wedi eu cynhyrchu ar gyfer rhaglenni S4C fel Bandit, dwi’n meddwl fod diffyg rhaglen gerddoriaeth gyfoes benodol wedi gadael bwlch mawr yn y sin yn 2012.

Dwi’n falch iawn fod comisiynwyr S4C wedi datrys hynny bellach, a bod Y Lle: Ochr 1 yn llenwi’r bwlch hwnnw i raddau helaeth.

Er mai cyllideb cymharol fach sydd gan Ochr 1 o’i chymharu â rhaglenni Cymraeg tebyg o’r gorffennol, ac yn sicr o’i chymharu â rhai Eingl-Americanaidd, maen nhw’n rhoi cyfle i gyfarwyddwyr addawol greu fideos i artistiaid. Mae hynny’n rhywbeth i’w groesawu, ac mae safon rhai o fideos y gyfres yn uchel iawn.

Wn i ddim os ydy dyfodiad Ochr 1 wedi dylanwadu ar bobl i gynhyrchu fideos annibynnol, ond yn sicr mae llawer mwy o’r rhain wedi ymddangos yn 2013. Dwi’n brysur yn trefnu Noson Wobrau’r Selar ar hyn o bryd, ac rydan ni wedi penderfynu cyflwyno gwobr newydd ‘Fideo Cerddoriaeth Orau’ eleni i roi hwb pellach i’r rhan honno o’r diwydiant.

Mae rhestr ar wefan Y Selar o fideos cerddoriaeth Ochr 1, ynghyd â rhai annibynnol sydd wedi eu cyhoeddi ar YouTube yn 2013, a bydd panel Gwobrau’r Selar yn dewis eu ffefryn o blith rhain erbyn y noson wobrau yn Aberystwyth ar 15 Chwefror.

O ystyried hyn, annheg fyddai i mi ddewis fy 5 uchaf eleni mae’n debyg, ond dyma 5 – nid mewn unrhyw drefn arbennig – dwi wedi mwynhau i roi blas i chi.

Stuntman – Hud

Mae hogiau Hud yn hen lawiau ar greu fideos eu hunain – mi wnaethon nhw ryddhau 4 neu 5 yn 2011 i gyd-fynd â’r 12 sengl a ryddhawyd ganddyn nhw’r flwyddyn honno.


Addewidion – Yr Ods

Un o’r fideos Ochr 1 o’r flwyddyn ddiwethaf, gydag Osian Williams yn cyfarwyddo. Dim ond ers rhai dyddiau mae hwn ar-lein ond mae’n glyfar iawn ac yn gweddu i’r gân wych ‘Addewidion’, o albwm diweddaraf Yr Ods.

Mynd Trwy Dy Bethau – Dau Cefn

Mae Dau Cefn yn wych. Maen nhw’n amlwg yn reit dda am wneud fideos i’w caneuon hefyd, ac mae’r esiampl yma’n rhoi ias i mi.

Cefn Trwsgl – Gai Toms

Esiampl syml ond effeithiol iawn gan Gai Toms i gyd-fynd â’r sengl a ryddhaodd ym mis Rhagfyr.

Penseiri – Violas

Mae ‘na rywbeth am sŵn Violas sy’n gweddu’n dda ar gyfer ffilm – fedrwch chi weld eu cerddoriaeth yn cael tipyn o ddefnydd ar raglenni teledu neu ffilmiau. Dyma fideo arall ar gyfer Ochr 1 gan On-Pâr.