Yr Ods yn recordio albwm Llithro
Yn y cyntaf o flogiau wythnosol ar gerddoriaeth roc a phop yng Nghymru, Owain Schiavone sy’n talu sylw i ddwy o recordiau amlycaf yr haf.
Fel y dywedodd gŵr doeth wrtha’i unwaith “dylet ti wrando ar record o leiaf dair gwaith cyn ffurfio barn arni”.
Fe fydda i’n pregethu’r efengyl yma fy hun yn reit aml erbyn hyn ac yn annog pobl i roi gwrandawiad teg i recordiau newydd Cymraeg yn arbennig. Er hynny, mae’n dal i fy rhyfeddu pa mor wir ydy hyn, a pha mor aml fyddai’n cael fy nhwyllo gan y gwrandawiad cyntaf o record.
Mi fedrai feddwl am ddwy enghraifft amlwg iawn o hyn i mi’n bersonol dros yr haf.
Wrth wrando am y tro cyntaf ar EP newydd Sŵnami ac albwm newydd Yr Ods – dau o fandiau gorau’r sin Gymraeg ar hyn o bryd heb os – rhaid i mi gyfaddef fy mod i braidd yn siomedig.
Dyma chi Sŵnami a ffrwydrodd ar y sin llynedd gyda’r senglau gwych ‘Mynd a Dod’ ac ‘Eira’, heb sôn am yr anthem ‘Ar Goll’.
Ar ôl cyfres o senglau cofiadwy mae rhoi casgliad at ei gilydd yn gallu bod yn anodd, ac ar y gwrandawiad cyntaf ro’n i’n gofidio nad oedd yr EP Du a Gwyn yn ddigon trawiadol o’i gymharu.
Ac yna roedd albwm newydd gan Yr Ods – grŵp sydd wedi aeddfedu’n raddol ond a seliodd eu lle fel un o 3 neu 4 headliner go iawn y sin gyda’u halbwm gyntaf arbennig Troi a Throsi yn 2011. Mae’r ‘ail albwm anodd’ yn dipyn o cliche erbyn hyn, ac wrth wrando’n wreiddiol ar Llithro do’n i ddim yn clywed caneuon cofiadwy fel ‘Siân’, ‘Dadansoddi’ a ‘Cerdded’.
Fel dwi’n dweud, mae’r gwrandawiad cyntaf yn gallu bod yn dwyllodrus a hyfryd oedd darganfod wrth wrando ar y ddau gasgliad eilwaith a theirgwaith eu bod yn tyfu arnaf, a bellach yn uchel iawn ar fy siart personol eleni!
Casgliad cyntaf
Mae EPs wedi bod yn bethau prin dros gwpl o flynyddoedd diwethaf, ond dwi’n teimlo eu bod nhw’n bwysig i ddatblygu bandiau ifanc – yn gyfle i greu casgliad, heb y pwysau o albwm llawn.
Yn sicr EP oedd y penderfyniad iawn i Sŵnami ar y pwynt yma ym mywyd y band, ac mae Du a Gwyn yn gam pwysig yn eu datblygiad.
Mae’r casgliad yn agor yn gryf efo ‘Y Nos’ sy’n glamp o diwn. Mae ‘Gwreiddiau’ ac ‘Aros’ yn llai anthemig, ond yn rhoi mwy o bwyslais ar alawon ac yn dangos bod Sŵnami yn gallu cynnig amrywiaeth, er bod y gitars can milltir yr awr sy’n nodweddu’r grŵp yn gwneud ambell ymddangosiad.
Yna maent yn codi ger eto – a byddwch yn ofalus efo’r pedal os yn gwrando ar hon yn y car gyda llaw – gyda ‘Pen y Daith’ a’i “oh-oh-o’s” (mae Sŵnami a’r Ods yn rhannu hoffter o’r rhain!) cyn cloi gyda’r gân orau o bosib sy’n rhannu enw’r EP.
Dwi’n methu peidio â rhyfeddu at allu’r hogia yma i greu caneuon bachog dro ar ôl tro – a dyma chi grŵp sy’n swnio gystal ar lwyfan ag y maen nhw ar record.
Safon heb Lithro
Gyda’r aelodau wedi’i gwasgaru braidd erbyn hyn, does dim cymaint o gyfleoedd i weld Yr Ods yn gigio dros fisoedd tywyll y gaeaf. Yn hytrach maen nhw’n tueddu i flodeuo erbyn yr haf gan chwarae mewn cymaint o wyliau a gigs mawr a phosib.
Eleni roedd ‘na set newydd i gyd-fynd â’r ail albwm, Llithro.
Mae’r casgliad yma’n gam pellach yn ôl o synau synths yr 80au oedd yn amlwg ar yr EP oedd yn rhannu enw’r grŵp ac yr albwm Troi a Throsi. Ond maen nhw’n parhau i roi cyfle i leisiau amrywiol y band gyda phedwar aelod yn cyfrannu prif lais i ganeuon ar y casgliad. Yr eironi ydy fod pawb ond y drymiwr newydd Gwion yn cael cyfle i ganu, ond o ystyried ei fod o’n frawd i Elin Fflur mae’n debygol iawn mai fo sydd efo’r llais gorau!
Ar ôl y gofid gwreiddiol ynglŷn â diffyg caneuon cofiadwy, mae wedi dod i’r amlwg fod llwyth o ganeuon da yma mewn gwirionedd.
Mae gen i dair ffefryn bersonol, sef y traciau clyfar iawn ‘Addewidion’ a ‘Haul y Gorllewin’, ac yna’r anthem ‘Gad mi Lithro’ sy’n fy atgoffa o rai o ganeuon cynnar Super Furry Animals.
Dyma chi un fydd yn cystadlu am wobr albwm orau 2013 heb os.
Dwi wedi clywed ambell ŵr doeth wedi dweud fod “yr argraff gyntaf yn bwysig”, ond pan ddaw at gerddoriaeth, dwi’n cytuno gyda’r gŵr doeth hwnnw a ddywedodd wrtha’i un tro fod yr argraff gyntaf yn aml yn anghywir!