Vaughan Roderick yn dangos clawr Y Faner gyda chartŵn o Dylan Iorwerth arno yng Ngŵyl Golwg (Llun: Marian Delyth)
Yn ôl Dylan Iorwerth, roedd yn rhaid i’r Faner newid os am oroesi ar ddiwedd y 1980au.

Roedd Golygydd Gyfarwyddwr Golwg yn cael ei holi am hanes y cylchgrawn gan Vaughan Roderick yng Ngŵyl Golwg ar ddechrau mis Medi yn un o sesiynau ‘Stafell Sgwrsio’ yr ŵyl.

Ar y pryd roedd llawer yn beio dyfodiad Golwg am dranc Y Faner, ond yn ôl Dylan Iorwerth roedd rhaid i’r Faner “ffeindio ei lle” o’r newydd os oedd am oroesi.

“Rhaid amau na fedrai’r ddau ddim byw yn y tymor hir oni bai y gallai’r ddau ffeindio’u lle” meddai wrth ateb cwestiwn Vaughan Roderick am y mater.

“Petai’r Faner wedi gallu ffeindio ei gornel o’r farchnad … mi allai fod wedi llwydd.”

“Yn anorfod, os nad oedd Y Faner am newid yn sicr fysa’i wedi dod i ben boed Golwg yno neu beidio.”

Gallwch wylio clip ecsgliwsif o’r sgwrs yn trafod hyn, a model busnes Golwg yn y dyddiau cynnar isod.

Mae clip arbennig arall o’r sgwrs yn rhifyn yr wythnos hon o ap Golwg yn trafod sefyllfa Y Byd a Golwg360.