Bu golygydd cylchgrawn Y Selar yn gwrando ar albwm newydd un o ser y sin ar ddiwedd y 1980au a dechrau’r 1990au ar gyfer rhifyn diweddaraf y cylchgrawn.

Dwi wedi cael y pleser o wylio HuwBobs Pritchard (Neu Bobs gynt) yn chwarae’n fyw ddwywaith ac mae o’n dipyn o brofiad. Mae o’n ymddangos o rywle bob hyn a hyn ac yn rhoi gwers i unrhyw un ar sut i ddangos ychydig o bersonoliaeth ar y llwyfan. A dyna’n union gawn ni ar yr albwm newydd yma hefyd – personoliaeth.

Dechreua’r casgliad ar dân gyda ‘Cenedl’ sy’n llawn angerdd ac agwedd. Ceir traciau arafach fel ‘Un prynhawn’ ac ‘Euog’ hefyd sy’n llawer mwy personol, ac mae i rain eu rhinweddau. Ond i mi, mae HuwBobs yn ffynnu pan mae yna fwy o fynd i’r caneuon fel yn ‘Plygu!’ sef yr uchafbwynt heb os.

Does yna ddim un dwy gân yn debyg, felly mae yma amrywiaeth hyd yn oed os nad oes teimlad o gyfanwaith. Wedi dweud hynny, mae’r geiriau’n cynnig cysondeb i’r casgliad. Beirniadaeth gymdeithasol boi sydd wedi byw sydd yma. Nid yr albwm i’r gwangalon efallai ond os am rywbeth gwahanol yr haf hwn, ewch amdani.

7/10

Adolygiad o rifyn diweddaraf cylchgrawn Y Selar. Darllenwch fwy o adolygiadau, cyfweliadau ac erthyglau cerddoriaeth eraill yn y fersiwn ar-lein.