Mae Cymdeithas Ceredigion wedi derbyn rhodd ariannol sylweddol yn ewyllys Gwyddel a ddaeth i fyw i’r sir ac a ymserchodd yn yr iaith Gymraeg a’i thraddodiad eisteddfodol.

Cyflwynwyd £10,000 i’r gymdeithas drwy ewyllys y diweddar Pat Neill, o Cross Inn, Cei Newydd, a fu farw ym mis Gorffennaf y llynedd.

Ei ddymuniad oedd bod y llog a ddaw o’r rhodd yn cael ei ddefnyddio i dalu am gadair i’w chyflwyno mewn cystadleuaeth am waith llenyddol yn eisteddfod flynyddol Cymdeithas Ceredigion.

“Bu Pat Neill yn un o garedigion eisteddfodau bach a mawr am flynyddoedd, ac rydym fel cymdeithas yn hynod ddiolchgar am ei haelioni unwaith eto,” meddai Mair Davies, Llywydd Cymdeithas Ceredigion.

“Rwy’n siwr y bydd nifer fawr o gystadleuwyr ar draws Cymru yn awyddus iawn i gipio’r gadair arbennig y mae Roni Roberts yn ei chynllunio. Addawaf y bydd yn werth ei hennill.”

Cadair o goeden sydd wedi disgyn

Crefftwraig lleol ydy Roni Roberts, ac mae hi eisoes wedi dewis darn o bren onnen i weithio Cadair Goffa Pat Neill.

“Mae’n ddarn arbennig o hardd o ardal Llechryd,” meddai’r ferch o Felinwynt, ger Aberporth.

“Mae’r graen naturiol ynddo yn creu patrwm hyfryd. Bydd y gadair gyfan yn cael ei llunio o’r un boncyff, ac felly yn cydweddu’n berffaith gyda’r cefn sy’n mesur tair troedfedd a hanner o uchder.”

Defnyddio coed wedi cwympo’n naturiol gan henaint neu stormydd y bydd Roni Roberts yn ei wneud bob amser.

“Er bod bywyd y goeden ar ben rwy’n ceisio sicrhau bod ei harddwch a’i defnyddioldeb yn parhau”, meddai.

Mwy am Pat Neill

Roedd Pat Neill o dras Gwyddelig, ond symudodd ei rieni i dde Lloegr pan oedd yn fachgen ifanc.

Ar ôl gorffen ei gwrs hyfforddi bu’n athro mewn ysgol gynradd yn Havant, ger Southampton, ond ymddeolodd yn gynnar oherwydd afiechyd.

Pan symudodd i Geredigion aeth ati’n ddyfal i ddysgu Cymraeg, ac wedi meistroli’r iaith ymunodd â dosbarthiadau dysgu’r cynganeddion.

Meistrolodd y grefft honno hefyd, a bu’n aelod o dimau Talwrn y Beison a Llandysul.

Gofynnir am gerdd mewn cynghanedd heb fod dros 100 llinell ar y testun ‘Rhodd’.

Un waith yn unig y gall bardd ennill ‘Cadair Goffa Pat Neill’ a gyflwynir am y tro cyntaf yn eisteddfod flynyddol Cymdeithas Ceredigion y flwyddyn nesaf. Dyddiad cau y gystadleuaeth yw 16 Chwefror, 2013.