Mae nofel fuddugol Alun Ffred yng Ngwobr Goffa Daniel Owen eleni allan o stoc ac yn cael ei hadargraffu ar hyn o bryd.

Yn ôl canolfan ddosbarthu Cyngor Llyfrau Cymru, mae disgwyl y bydd Gwynt y Dwyrain yn ôl mewn stoc tua chanol yr wythnos hon.

Mae Cyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd allan o brint bellach hefyd.

Y nofel dditectif Gwynt y Dwyrain yw nofel gyntaf Alun Ffred.

Manteisiodd y llenor, sydd â’i wreiddiau ym Mrynaman a Llanuwchllyn ond sy’n byw bellach yn Nyffryn Nantlle, ar y cyfnod clo yn 2020 i ysgrifennu nofel am dditectif o Sir Feirionnydd o’r enw Idwal Davies.

Wrth draddodi’r feirniadaeth ym Moduan, dywedodd Sioned Wiliam fod y nofel yn “hynod afaelgar a darllenadwy” ac yn “creu awyrgylch ddwys heb fod yn orddibynnol ar ystrydebau’r ffurf”.

Mae’r nofel yn trafod themâu mawr, dirywiad y ffordd Gymreig o fyw, a dieithrio ac unigedd cefn gwlad hefyd.

Wrth siarad â golwg360, dywedodd yr awdur sy’n gyfrifol am greu cyfres boblogaidd C’mon Midffild fod y nofel dditectif yn apelio oherwydd bod yna broblem ac ateb – sy’n wahanol i fywyd, “sydd fel arfer heb ddatrysiad ac yn llanast”.

“Beth bynnag ydy anawsterau darganfod pwy sydd wedi gwneud, fel arfer mae yna bendraw i’r stori ac mae pobol yn licio gwybod bod yna drefn a rhywun mewn rheolaeth o’r sefyllfa,” meddai.

“Mae yna anhrefn ac yna mae yna drefn, dyna pam bod pobol yn licio darllen straeon ditectifs, am wn i, neu dw i’n gobeithio.

“A dw i’n gobeithio y bydd hon yn plesio, bydd pob darllenydd yn dod â’i farn a’i ragfarn ei hun.”

Alun Ffred yn cipio’r Daniel Owen am “chwip o nofel”

“Nofel dditectif hynod o afalegar a darllenadwy yw hon sy’n llwyddo hefyd i greu awyrgylch ddwys heb fod yn orddibynnol ar ystradebau’r ffurf”

Asiffeta! Alun Ffred yn ennill gyda nofel dditectif

Non Tudur

“Mae sgrifennu nofel yn golygu lot fawr o amser, ta waeth pwy sydd wrthi”