Fel rhan o drawsffurfiad a dathliad o 50 mlynedd o hip hop, mae Avant Cymru wedi creu arddangosfa rhyngweithiol yn hen siop H&M yng nghanolfan siopa Dôl Eryrod Wrecsam.

Mae’r arddangosfa ar agor bob dydd Mawrth a dydd Sadwrn rhwng 11.30yb a 5yh, ac mae digwyddiadau Hip Hop Cymru Wales yn cynnig perfformiadau sy’n ail-greu dawnsfeydd rap, dawnsfeydd brwydr, a paint-jams.

Gall ymwelwyr wneud gwaith celf, ysgrifennu, dawnsio, a gadael geiriau caneuon ar wal sydd wedi ei pharatoi, ac ymwneud â gweithgareddau cysylltiedig megis podlediadau ar draws Cymru.

Mae’r prosiect wedi’i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Mae awyrgylch hwylus i’r lle a’i arddangosfeydd llachar, ac mae llwyfan cyfleus i berfformio arno.

Trefnodd Voicebox ddigwyddiad ‘Wrex-slam’ yno ddydd Mercher (Awst 16).

Aeth colofnydd a gohebydd golwg360 draw i ambell ddigwyddiad yn ei milltir sgwâr…


Ymryson Wrex-slam

Waeth i mi fod yn onest, rhwng mynychu’r Eisteddfod ym Moduan, a jyglo prosiectau gwaith (gan gynnwys sgwennu i golwg360!), doeddwn heb cael amser i feddwl yn glir am Wrex-slam tu hwnt i fy argraff gyntaf sef: ymryson.

Ges i sioc braidd, felly, wrth gyrraedd a chael ar ddeall nad ysgrifennu cerddi ar y noson ar themâu wedi’u datgelu i ni yn y fan a’r lle oedd y nod, ond perfformio cerddi yr oedden ni wedi’u paratoi yn barod.

Bu raid i mi redeg ’nôl i faes parcio Byd Dŵr felly, i ‘mofyn un o fy mhamffledi Trawiad|Seizure o gefn y car, i mi gael darllen cerdd ohoni. Fy nghyfieithiad o ‘Ablaeth rhemp y crachach’, felly, oedd fy mherfformiad gyntaf.

Mi aeth fy mherfformiad yn olreit, ac mae’r gynulleidfa yn y nosweithiau hyn yn glên ac yn groesawgar. Ond fel sydd wastad yn digwydd i mi wrth wylio perfformwyr eraill, dwi’n cael fy ysgogi i godi fy ngêm!

Cefais fy swyno gan waith bardd hynafol y sîn, David Subacci, a’r elfen o berfformiad o’i gerdd oedd am fywyd ei daid o’r Eidal, a’r fedal ryfel gafodd e, a’r ffaith fod David dal yn ei thrysori, ynghyd â medal ryfel ei dad.

Cefais sgwrs ddifyr gyda David wedyn am berfformio cerddi, y ffin rhwng cerddi a chaneuon, a’r tebygrwydd hefo gwaith Jim Morrison… er, perodd y gymhariaeth hon i David chwerthin braidd!

‘Colli iaith’ a’r freuddwyd newydd am gytgord

Mwynheuais y perfformiadau eraill oedd yn feddylgar ac yn glyfar, a ‘sidrais nad ydw i’n berson cystadleuol beth bynnag, ac felly gollyngais y pryder oedd ynof ynghynt yn y noson a phenderfynais gael hwyl wrth geisio ymgyrraedd at adloniant.

Cenais fy egin cân ‘Breuddwyd am yr iaith’, yr hyn yr oeddwn wedi ei pharatoi ar gyfer Bragdy’r Beirdd ym Moduan. Mwynheuais ymateb y gynulleidfa, a’r datgeliad wedyn fod yna bedwerydd person ene oedd yn siaradwr Cymraeg.

Cefais sgwrs ddifyr arall hefo David wedyn, wrth iddo ddweud bod y gân a’m perfformiad ohoni yn ei atgoffa o’r gân ‘Colli iaith’ gan Heather Jones, cantores o’r chwedegau fu’n rhan o’r sîn yr un adeg â Dafydd Iwan, Meic Stevens a’u tebyg.

Doeddwn i ddim yn ymwybodol o’r gân honno, nac o Heather Jones a’i gwaith, ond es i adre’ a chwilio ar Spotify, a dod o hyd iddi; dw i bellach wedi gwirioni arni ac yn mwynhau synfyfyrio am y cysylltiadau hefo fy nghân i, yn ogystal â sut maen nhw’n wrthbwynt i’w gilydd mewn sawl ffordd.

Mae awyrgylch a sain y ddwy gân yn debyg, wrth gwrs, achos bod yr alawon yn deillio o’r un cyfnod – ar hyn o bryd, rwy’ wedi bod yn gosod y geiriau i alaw’r hysbyseb Coca-cola hefo’r ‘Hilltop choir’; er, bydd rhaid i mi ddod o hyd i alaw arall os dw i am wneud rhywbeth o ddifri hefo hi.

Dyma sy’n hyfryd am ddigwyddiadau fel Wrex-slam, ynde, y cyfle i dysgu gen eich gilydd mewn awyrgylch hamddenol, braf, heb i neb drio codi cywilydd arnoch am arbrofi hefo ffiniau eich gwaith a’ch genre.

Ymlaen i Wrex-fest

IwanBerryWrexslam
Iwan James Berry

Pencampwr yr ymryson oedd Iwan Berry, un o berfformwyr rheolaidd Voicebox. Yn wreiddiol o Landudno, mae Iwan yn siarad Cymraeg yn rhugl. Mae ei waith yn ddysgedig, gydag elfen o ddychan, ac wastad yn ddoniol iawn.

Roedd Iwan wedi paratoi dwy gerdd goeth at yr ymryson – y math o gerddi sy’n gwneud i mi deimlo fel Eric Clapton yn gwylio Jimi Hendrix! Ac felly, haeddiannol iawn oedd ei fuddugoliaeth. Iwan, felly, fydd ‘headline act’ y noson meic agored Voicebox nesaf.

Ac ymlaen â ni rŵan i’r digwyddiad ‘Wrex-fest’ ar Awst 25, lle bydd artistiaid creadigol (gan gynnwys fi) yn arddangos ein sgiliau, gan obeithio diddanu’r gynulleidfa.

Dwi wrthi nawr yn ceisio paratoi perfformiad fydd yn plethu’r Gymraeg a’r Saesneg, a braf fyddai cael eich cwmni yn Nhŷ Pawb (5yh-8yh).