Bydd arddangosfa newydd, ‘Yn Unig Gyda’n Gilydd’, yn agor yn Oriel Môn ar Fedi 23 yn edrych ar natur unigrwydd, arwahanrwydd a gorbryder.
Bydd yn arddangosfa o waith tair artist, sef Jess Bugler, Leonie Bradley a Prerna Chandiramani.
Gyda’i gilydd, mae’r tair yn cael eu hadnabod fel artistiaid SPIKED.
Fe ddechreuon nhw weithio gyda’i gilydd yn ystod y cyfnod clo, ac fe ddefnyddion nhw eu teimladau o orbryder i edrych yn fanwl ar unigrwydd fel sbectrwm, gydag arwahanrwydd ar un pegwn ac unigedd ar y pegwn arall.
Mae unigedd yn fath cadarnhaol o unigrwydd y mae nifer o bobol yn ei geisio.
“Wrth ddod at ein gilydd fel grŵp, gwnaethom ddadansoddi’r geiriau sy’n gysylltiedig ag unigrwydd, a chytuno ar set o saith gair a ddaeth yn sylfaen ar gyfer ein cyrff o waith: arwahanrwydd, unigrwydd, dieithrio, datgysylltiad, pellter, ar wahân ac unigedd,” meddai Leonie Bradley.
Pob artist yn wahanol
Mae pob artist yn ymateb yn wahanol i’r emosiynau ar y sbectrwm.
Mae eu hymatebion yn cydblethu ond eto’n unigol.
Mae Jess Bugler yn defnyddio mannau caeedig coediog, Leonie Bradley yn defnyddio symbol goriadau, a Prerna Chandiramani’n defnyddio iaith a phlygiadau.
Mae’r gosodiad ei hun yn ffurfio llinell grom gyda’r gwaith celf yn creu caeadle mae modd ei edmygu o’r tu mewn.
Mae ‘pegwn unigedd’ y sbectrwm yn eang ac yn groesawgar, a’r ‘pegwn arwahanrwydd’ wedi’i weindio’n dynn ac yn glawstraffobig.
“Mae’r gweithiau celf wedi’u printio ar ddeunydd tryloyw, gan ddwysau bregus rwydd profiad unigol a chaniatáu’r gwyliwr i weld drwy’r haenau gwahanol, sy’n eu hatgoffa o’r cyffredinrwydd rydyn ni’n ei rannu,” meddai Prerna Chandiramani.
Adlewyrchu ar y profiad
Bydd yr arddangosfa’n rhoi cyfle i ymwelwyr adlewyrchu ar ein profiadau unigryw o fod ar ein pen ein hunain yn ystod y cyfnod clo, a’r profiadau rydyn ni’n eu rhannu, drwy gymryd rhan mewn creu gwaith celf newydd fydd i’w weld mewn lleoliad yn y dyfodol.
“Mae deuoliaeth y teimlad o unigrwydd, sy’n ganolog i’n cyflwr dynol, wedi bod yn heriol a hynod ddiddorol wrth i’r prosiect hwn ddatblygu,” meddai Jess Bugler.
Mae SPIKED yn grŵp o artistiaid sy’n creu gosodiadau sy’n edrych ar gyfathrebu a chof.
Mae pob artist wedi derbyn Bwrsariaeth Peter Reddick, Innovation in Relief Printmaking, yn Stiwdio Spike Print ym Mryste.
Mae Leonie Bradley yn aelod o Gymdeithas Frenhinol y Peintwyr-Gwneuthurwyr Argraffu.
Cafodd Jess Bugler ei hethol i’r Academi Frenhinol Gymreig yn ddiweddar, ac mae Prerna Chandiramani yn aelod o’r Cyngor Peintwyr-Gwneuthurwyr hefyd.
Maen bosib gweld ‘Yn Unig Gyda’n Gilydd’ yn Oriel Môn hyd at Dachwedd 5.