Mae darn o gelf sy’n darlunio golygfa o Sioe a Pharêd Dydd Sadwrn Barlys Aberteifi wedi’i greu gan yr artist Meirion Jones ar gyfer Sioe’r Cardis.
Yn 2010, y tro diwethaf i Geredigion fod yn Sir Nawdd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, fe wnaeth ei dad Aneurin Jones greu darn o gelf ar gyfer y digwyddiad.
Cafodd y gwaith ei werthu i godi arian ar gyfer y Sir Nawdd, ac roedd yn llwyddiant ysgubol.
Mae Meirion Jones yn arlunydd adnabyddus iawn, sy’n cael ei ysbrydoli gan olygfeydd gwledig ac arfordirol yng ngorllewin Cymru.
Bydd y darn celf gwreiddiol a phrintiau yn cael eu gwerthu mewn arwerthiant byw yn ystod noson cneifio cyflym yn Beulah nos fory (nos Wener, Awst 18), i godi arian ar gyfer Sioe’r Cardis 2024 ac Ambiwlans Awyr Cymru.
Mae disgwyl tua chant o gneifwyr ar y noson.
Meirion Jones
Cafodd Meirion Jones ei eni yn hen sir Ddyfed, ac fe aeth i Goleg Celf Dyfed a Phrifysgol Cymru.
Aeth yn athro am ddegawd cyn penderfynu canolbwyntio ar gelf yn llawn amser yn 2002.
Mae ei syniadau’n deillio o ardaloedd yng Nghymru mae’n gyfarwydd â nhw, fel arfer yn y gorllewin, ond mae’r gogledd a Phatagonia’n ymddangos yn rhywfaint o’i waith hefyd.
Ymhlith yr ardaloedd sydd wedi ei ysbrydoli mae Promenâd Aberystwyth, Preseli, Llyn y Fan ac arfordir Penfro, ac mae’n dueddol o weithio ar fympwy.
Dywed nad oes patrwm i’w dueddiadau i greu gwaith celf, a bod elfen ddamweiniol i’w waith.
Paent acrylig yw ei gyfrwng fel arfer, yn ogystal ag inc ar forden denau.
Wrth i’r degawdau fynd heibio, mae ei waith wedi mynd yn fwy awgrymog, gyda’r elfen storïol yn fwy blaenllaw ynddyn nhw.
Aneirin Jones
Cafodd Aneirin Jones ei eni yng Nghwm Wysg, ar y ffin rhwng Sir Frycheiniog a Sir Gaerfyrddin, i deulu o ffermwyr.
Astudiodd Gelfyddyd Gain yng Ngholeg Celf Abertawe rhwng 1950 a 1955, cyn mynd yn athro i Ysgol y Preseli, Crymych, gan ddod yn bennaeth Celf tan 1986.
Yn 1978, derbyniodd e Wobr Rotari am wasanaeth rhagorol i gelf.
Arddangosodd ei waith yn gyson yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac enillodd y brif wobr gelf yn 1981.
Mae ei baentiadau’n aml yn canolbwyntio ar yr hen ffyrdd o fyw yng nghefn gwlad Cymru.
Cymharodd ei fywyd ef â bywyd ffermwr, gan ddweud bod “arlunydd yn aredig eu rhych eu hunain; mae peintio yn bersonol iawn o ran y patrwm, y siâp a’r naws y mae’n ei greu”.
Mae ei baentiadau yng nghasgliadau cyhoeddus Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Ceredigion ac MOMA Cymru yn ogystal â chasgliadau tramor.