Bydd Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd yn perfformio eu cynhyrchiad cyntaf ers ail-lansio’r cwmni y llynedd.

Dan ofalaeth greadigol y cyfarwyddwr Angharad Lee a’r Cyfarwyddwyr Cerdd Kiefer Jones a Nathan Jones, byddan nhw’n perfformio cynhyrchiad newydd o Deffro’r Gwanwyn gan Daf James.

“Mae Deffro’r Gwanwyn yn ddathliad lliwgar ac egnïol o ieuenctid a rebelio,” meddai Branwen Davies, trefnydd Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd.

“Mae’n ymwneud â themâu sydd dal yn anghyfforddus i’w trafod ar brydiau a hynny mewn modd gonest a miniog.

“Mae’r cynhyrchiad yn gyfle i bobol ifanc sydd yn byw’r themâu i fynegi eu hunain mewn modd theatrig, bythgofiadwy.

“Mae’n gyfle i wyntyllu rhwystredigaethau y blynyddoedd cyfyngedig diwethaf, ond hefyd ystyried gobaith ar gyfer y dyfodol.

“Mae’n gynhyrchiad sydd wirioneddol yn werth ei weld.”

Y sioe a’r cwmni

Cafodd addasiad Cymraeg Daf James o’r sioe gerdd Spring Awakening ei berfformio gyntaf gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2010.

Wedi’i seilio ar ddrama bwerus a dadleuol Frank Wedekind, cafodd y sioe ei hysgrifennu gan Steven Sater a’r gerddoriaeth gan Duncan Sheik ar gyfer llwyfan Broadway yn 2006.

Cafodd Cwmni Theatr Ieuenctid Cymru ei sefydlu yn y 1970au, gyda’r nod o ddarparu cyfleoedd i bobol ifanc rhwng 14 ac 19 oed i fwynhau ac ehangu eu profiadau celfyddydol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ond daeth Cwmni Theatr Ieuenctid Cymru i ben yn 2019.

Diolch i fuddsoddiad o £1m gan Lywodraeth Cymru, mae bellach yn cynnig cyfleoedd newydd i Gymry ifanc sydd â diddordeb neu chwilfrydedd ym mhob agwedd ar fyd y theatr.