Mae Cynhyrchydd Gweithredol Eisteddfod Ryngwladol Llangollen wedi cael ei diswyddo wrth i’r sefydliad rybuddio eu bod nhw’n wynebu “dyfodol eithriadol o heriol”.

Cafodd Camilla King ei phenodi ym mis Medi 2021, a bu’n gyfrifol am yr ŵyl dros gyfnod Covid.

Fe gafodd yr Eisteddfod ei sefydlu yn 1947 ar ôl yr Ail Ryfel Byd er mwyn ceisio hyrwyddo heddwch drwy gerddoriaeth a dawns.

Mewn datganiad, dywedodd cadeirydd yr ŵyl eu bod nhw wedi cael eu heffeithio’n “ddifrifol” gan y pandemig a gan yr argyfwng costau byw presennol.

“Fel nifer o sefydliadau diwylliannol, mae’r Eisteddfod yn wynebu dyfodol eithriadol o heriol yn sgil y sefyllfa ariannol,” meddai Sarah Ecob.

“Mae’r Bwrdd a Chadeiryddion y Pwyllgorau wedi cyfarfod i drafod gweithredu brys er mwyn trio sefydlogi ein sefydliad.

“Rydyn ni’n drist iawn ein bod ni’n diswyddo ein Cynhyrchydd Gweithredol, a byddan ni’n lansio ymgyrch codi arian fawr yn fuan er mwyn diogelu dyfodol yr Eisteddfod.

“Hoffwn ddiolch i Camilla am ei gwaith eithriadol yn ein gŵyl ac rydyn ni’n dymuno’r gorau iddi at y dyfodol.

“Hoffwn ddiolch i’n cwsmeriaid, gwirfoddolwyr, staff, cystadleuwyr, perfformwyr a noddwyr sy’n gwneud yr Eisteddfod yn ddigwyddiad mor arbennig bob blwyddyn… gyda’u cymorth gallwn sicrhau bod yr Eisteddfod yn parhau i fod yn ganolog i fywyd diwylliannol Cymru ac yn parhau â’i rôl yn hyrwyddo heddwch mewn byd ansicr.”

‘Penderfyniad anodd’

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Camilla King ei bod hi’n “amlwg yn anodd” iddi fod yn gadael ei swydd ond ei bod hi’n deall eu bod nhw’n ceisio gwneud y peth iawn i’r sefydliad.

“Mae’n amlwg y pryder yna am ddod o hyd i waith newydd a chefnogi fy nheulu,” meddai.

“Dwi’n meddwl ei fod yn benderfyniad anodd iawn i’r sefydliad fod wedi’i wneud… efallai byddai ateb arall wedi bod.

“Ond dwi hefyd yn deall bod y bwrdd mewn sefyllfa letchwith a’u bod yn ceisio gwneud y peth iawn i’r sefydliad yma, fel ei fod yn parhau blwyddyn a thu hwnt.”