Mae teulu bachgen naw oed o Groeslon gollodd ei het bwced yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan wedi canmol caredigrwydd pobol ar ôl iddo gael yr het yn ôl.

Roedd yr het wedi cael ei llofnodi gan Dafydd Iwan ac Elidyr Glyn, ac fe gynigiodd sawl person, gan gynnwys Welsh Whisperer, het newydd i Caio Llewelyn-Parry ar ôl iddo ei cholli ar y Maes.

Penderfynodd ei deulu ar yr eiliad olaf y bydden nhw’n mynd i’r Eisteddfod, gan brynu het bwced iddo.

Ac er ei fod yn swil, fe lwyddodd i fagu’r hyder i ofyn am lofnodion y ddau ganwr ond o fewn eiliadau roedd yr het wedi mynd ar goll, gyda’r teulu’n chwilio hyd a lled y Maes amdani.

Yr het

“Roedd eisiau cap i fynd ar ei wyliau, felly aethon ni i Spirit of 58 i ’nôl y cap,” meddai ei fam, Siân Llewelyn-Parry, wrth golwg360.

“Gath o badge i’w roi ar yr het yn y fanno gan Alaw.

“Roedd o wedi gwirioni.

“Wedyn gwnaeth o weld criw o’i ffrindiau’r diwrnod wedyn, ar y dydd Iau.

“Gwelodd o’i ffrindiau a gwelon ni Elidyr Glyn yn canu.

“Aethon ni ddim mewn i fan yna, roedd hi’n rhy brysur.

“Pan ddaethon nhw allan, aeth Caio a’i ffrindiau at Elidyr Glyn i’w gael o i arwyddo’r cap a ballu.

“Roedden nhw yn gweld eu hunain yn rêl bois, oherwydd mae Caio, oni bai bod o’n adnabod rhywun, yn reit swil.

“Roedd hynny ychydig o drec iddo fo, bod o wedi mynd a gofyn a siarad a chael llofnod.

“Wedyn gwnaeth o ffeindio Dafydd Iwan, ac mi aeth at hwnnw a gofyn a siarad.

“Roedd o wedi gwirioni cael llofnod Dafydd Iwan.”

Y cap yn diflannu

O fewn eiliadau, wrth i’r teulu ymlacio, diflannodd yr het ac aethon nhw i bob cwr o’r Maes i chwilio amdani.

Roedd Caio Llewelyn-Parry yn torri ei galon, gan deimlo nad oedd eisiau dod i’r Eisteddfod eto.

“Dyna frawd mawr Caio yn dod adeg yna, ac mae fi’n dweud dos i nôl y caps i fi ddangos i Daniel a Mari’r llofnodion ar y cap,” meddai wedyn.

“Doedd dim golwg o’r cap.

“Dydw i ddim yn gwybod sut aeth y cap mewn eiliad.

“Dydw i ddim gwybod lle aeth y cap.

“Aethon ni i banics.

“Gwnaethon nhw chwilio yn fy mag, roedden nhw yn chwilio ym mhob man.

“Gwnes i adael Caio efo modryb, ac fe es i un ffordd, aeth Mam ffordd arall, aeth fy chwaer ffordd arall, a gŵr fy chwaer ffordd arall.

“Roedden ni jyst yn mynd rownd y bobol yma i gyd yn chwilio pwy oedd efo’r het bwced.

“Roedd yna lwythi o hetiau, roedd pawb efo het, on’d oedd!

“Dydw i ddim yn gwybod beth oeddan ni’n mynd i wneud os oeddan ni ddim yn ffeindio’r het.

“Dydw i ddim yn gwybod beth oeddan ni’n bwriadu gwneud, â dweud y gwir.

“Doedd dim golwg o’r het, roedd Caio yn beichio crio, roedd yn torri ei galon.

“Roedd o eisiau mynd adref, doedd o ddim eisiau aros yn yr Eisteddfod.

“Doedd o byth eisiau mynd i’r Eisteddfod eto.”

Bendith y cyfryngau cymdeithasol

Rhannodd Kenyon Parry, gŵr Siân Llewelyn-Parry, y newyddion siomedig ar y cyfryngau cymdeithasol, a daeth sawl person caredig ymlaen i gynnig het newydd wedi’i lofnodi.

Ymhlith y rhai wnaeth ymateb roedd Welsh Whisperer yn cynnig het arall iddo, a dywedodd eraill y bydden nhw’n prynu het newydd iddo ac yn cael llofnodion arni.

Er i’r het gael ei darganfod yn y pen draw, rhoddodd Welsh Whisperer het ychwanegol iddo beth bynnag pan aethon nhw i’r Tŷ Gwerin, ac yntau “wedi teimlo i’r byw” dros y bachgen bach.

“Dyna ni’n cyrraedd adref, ac roedd hi’n 7.30-8 o’r gloch, wedyn dyna fy ngŵr yn ei roi ar Facebook jyst rhag ofn,” meddai wedyn.

“Roedden ni’n meddwl fyddan ni byth yn gweld y cap eto, gawn ni gap arall.

“Gwnaeth o rannu fo ar Facebook a chyn diwedd gyda’r nos, roedd 100 wedi ei rhannu a gwnes i ei rhannu ar Rwydwaith Menywod Cymru.

“Roedd yna lwyth wedi gyrru negeseuon preifat ata i wedyn.

“Roedd yna ddynes o’r enw Joan Edwards, ac roedd hi am yrru cap iddo fo’r bore wedyn.

“Does gennyf i ddim syniad pwy yw’r ddynes yma.

“Roedd hi’n mynd i gael llofnodion Elidyr Glyn a Dafydd Iwan arni.

“Roedd Caio dal ychydig fel, ‘Dim hwnna oedd o, dydw i ddim eisiau cap arall’.

“Roedd o eisiau ei gap o.”

Ffeindio’r cap

Dyn o’r enw Deio Huws ddaeth o hyd i’r cap yn y pen draw.

“Dwi’m yn gwybod os oedd y cap wedi bod ym Maes B trwy’r nos. ond cawsom y cap yn ôl,” meddai Siân Llewelyn-Parry.

“Roedd rhaid i ni ddweud wrth Welsh Whisperer bod ni wedi cael y cap yn ôl.

“Wedyn chware teg, gwnaeth o dal rhoi cap JCB i Caio.

“Hwnna oedd o’n gwisgo wedyn.

“Hwnnw oedd y cap wedyn.

“Sut aeth y peth o gwmpas gymaint o bobol mewn ychydig o oriau? Dydw i ddim yn gwybod sut oedd y bobol yn yr Eisteddfod wedi medru rhannu hwn.”