Mae hi’n “gywilydd” fod rhaid i bobol ag anableddau wynebu heriau wrth barcio a chael mynediad i’r Eisteddfod, yn ôl ymgyrchydd gafodd drafferthion ym Moduan.
Cafodd Dafydd Morgan Lewis, sydd wedi bod yn ymgyrchu gyda Chymdeithas yr Iaith ers degawdau, ei atal rhag parcio ym maes parcio anabl yr Eisteddfod yn Llŷn ac Eifionydd ym Moduan, meddai.
Gan ei fod yn defnyddio un o sgwteri trydan yr Eisteddfod, a bod hwnnw ar ochr arall y ffens ar y Maes, cafodd ei rwystro rhag parcio yno, meddai.
“Mae gen i hawl oherwydd anabledd i fynd i’r maes parcio anabl, ac fe wrthodwyd i fi fynd achos doedd gen i ddim peiriant mobile,” meddai wrth golwg360.
“Dim ond pobol efo mobile oedd yn cael, ac roedd y peiriant mobile dw i’n ei ddefnyddio yn un Eisteddfod oedd ochr arall i’r ffens.
“Dywedodd nad ydy pobol efo ffyn baglau yn cael mynd i barcio i’r maes yna.
“Mewn difrif calon, dw i ddim yn siŵr a ydy swyddogion yr Eisteddfod neu bwy bynnag roddodd y gorchymyn yna’n sylwi pa mor gythreulig o anodd ydy i bobol ar ffyn baglau gerdded yn yr Eisteddfod yma o gwbl.
“Cerdded mewn i’r ganolfan groeso ydy’r peth mwyaf peryglus y gall unrhyw un ar ffyn baglau ei wneud yn yr Eisteddfod [oherwydd y mwd].
“Mae’n gywilydd ein bod ni’n gorfod wynebu ryw heriau fel yna, mae’n amlwg bod hi’n bryd i’r Eisteddfod gael swyddog anabledd ar eu pwyllgor canolog sy’n edrych o ddifrif ar anghenion pobol anabl yn yr Eisteddfod.”
Roedd gan yr Eisteddfod Genedlaethol Swyddog Hygyrchedd yn gweithio ar y maes eleni, ac roedden nhw’n cynnig gwasanaeth llogi sgwteri trydan a chadeiriau olwyn.
Ymateb
“Mae sicrhau fod Maes yr Eisteddfod mor hygyrch â phosibl yn rhan bwysig o’n gwaith, ac eleni am y tro cyntaf roedd gennym ni swyddog hygyrchedd llawn amser ar y Maes, gyda’r Hwb Hygyrchedd wedi’i leoli y tu allan i’r brif fynedfa,” meddai llefarydd ar ran yr Eisteddfod.
“Roedden ni wedi nodi’n glir mewn nifer fawr o lefydd y dylid cysylltu â ni os oedd unrhyw un yn cael trafferth ar unrhyw adeg, ac roedd ein gwirfoddolwyr i gyd hefyd wedi’u briffio er mwyn gallu helpu pawb oedd angen unrhyw gymorth.
“Roedd ein stiwardiaid yn y meysydd parcio yn ofalus ac ystyrlon o bawb oedd angen cymorth, ac fe roddwyd mynediad i nifer o bobl oedd heb fathodyn glas ond oedd angen cefnogaeth i’r maes parcio drwy gydol yr wythnos.
“Ni roddwyd unrhyw orchymyn i stopio pobl gyda ffyn baglau rhag parcio yn y maes parcio anabl, a phetai Mr Lewis wedi cysylltu ag aelod o’r tîm ar y pryd, byddem wedi gallu delio gyda hyn yn syth.”