Mae dynes sy’n defnyddio cadair olwyn wedi canmol y cyfleusterau oedd ar gael i bobol ag anableddau yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Moduan yr wythnos ddiwethaf.

Yn ôl Siân Eleri Roberts, sy’n byw yn Nrefor ond sy’n dod o Bencader yn wreiddiol, roedd “mân broblemau” wedi codi yn ystod yr wythnos ond roedd staff a chyd-Eisteddfodwyr yn barod i’w helpu os oedd angen ac roedd hi’n gwerthfawrogi hynny, meddai.

Dywed fod pobol ag anableddau, yn yr un modd â phawb arall, eisiau mwynhau gwyliau fel yr Eisteddfod, a dyna pam fod angen iddyn nhw fod yn hygyrch.

“Fe es i’n sdyc ryw ddwywaith yn y mwd dechrau’r wythnos ond roedd pobol gyffredin, Eisteddfodwyr yn barod i helpu, gwthio ti o yna,” meddai wrth golwg360.

“Rwy’ bob amser yn gwerthfawrogi, hyd yn oed pobol yn gofyn, “Ti eisiau help?” pan doeddet ti ddim – pobol ifanc, hen bobol, pawb.

“Roeddwn yn gwerthfawrogi hynny felly.

“O ran y pebyll, fatha’r Babell Lên a Phabell y Cymdeithasau a ballu, roedd y stiwardiaid yn dda iawn.

“Roedden nhw’n gwylio bod gennyt ti le hwylus, ac roedd hynny’n grêt.

“Roedd yna le i charge-io scooters neu gadeiriau olwyn.

“Mae canran eithaf mawr o’r boblogaeth yn anabl, naill ai dros dro neu yn barhaol; maen nhw, jyst fel pawb arall, yn gwerthfawrogi cael mynd i wyliau fel yr Eisteddfod.

“Dydy’r ffaith bo nhw’n anabl ddim yn meddwl y dylen nhw gael eu cau allan o ddigwyddiadau pwysig fel hyn.”

‘Dim problemau mawr’

Treuliodd Siân Eleri Roberts wyth diwrnod yn yr Eisteddfod heb broblemau mawr, ond roedd mân bethau yn anodd.

“Roedd yna un broblem fach, yn y Pafiliwn Mawr, roedd yna step i fynd i le oedd y cadeiriau olwyn fod i fynd.

“Roedd yn iawn i fi, roedd aisles digon llydan, felly roeddwn yn gorfod eistedd ar ben un o’r aisles.

“Rwy’n siŵr mai wedi’u llogi oedd yr Eisteddfod, dim bai nhw oedd e.

“Roedd hynny dipyn bach yn awkward.

“Ond ar y cyfan roedd yn iawn.

“Weithiau roedd yn anodd dod lawr oddi ar y tracks neu i ddod nôl, roedd rhaid bod yn ofalus.

“Cadair olwyn trydan oedd gyda fi.

“Wrth gwrs, ar y dydd Sadwrn cyntaf, roedd y mwd yn niwsans ond os wyt ti’n cael Eisteddfod mewn cae, mae hynny i’w ddisgwyl, â dweud y gwir.

“Gwnaeth o glirio ddigon sydyn.”

Toiledau

O ran y toiledau, roedd Siân Eleri Roberts yn hapus bod uned i bobol anabl, ac roedd y staff yn ddigon parod i’w helpu.

Eto, dywed fod ambell beth fyddai’n gallu cael eu gwella ar gyfer y flwyddyn nesaf.

“O ran y toiledau, roedd yn help mawr bod unedau’n fawr, bo nhw wedi adeiladu uned eu hunain ar gyfer pobol anabl,” meddai.

“Roedd hynny’n help mawr, oherwydd dydy’r portaloos ddim yn addas.

“Does dim lle i gadair neu sgwter ynddyn nhw, yn enwedig os oes angen rhywun arall i helpu hefyd.

“Roeddwn yn falch iawn o gael yr uned fawr a lle i droi rownd, a dŵr yn rhedeg a ballu.

“Roedd problemau bach.

“Os oeddwn yn mynd mewn, doeddwn i methu tynnu’r drws ar fy ôl i.

“Beth roeddwn yn gwneud o’r ail ddiwrnod ymlaen, roeddwn yn mynd â belt ac wedyn roeddwn yn bachu’r belt ar handle y drws a’i dynnu fe ar fy ôl i, ac roedd hynny’n gweithio.

“Gan amlaf, roedd pobol dda iawn yn gofalu am y toiledau ac wedyn roedd un ohonyn nhw o gwmpas fel arfer, jyst yn cau’r drws ar fy ôl i ac wedyn roeddwn yn gallu ei gloi ar y tu mewn.

“Roedd y bobol oedd yn gweithio yna’n grêt; roedden nhw bob amser yn barod i helpu.

“Yn yr uned fawr, roedd gwely ar gyfer newid rhywun oedd ddim yn gallu defnyddio’r toilet eu hunain.

“Dydw i ddim yn siŵr a oedd hwnnw ddigon hir i oedolyn.

“Byddwn yn meddwl bod eisiau un dipyn bach hirach ar gyfer rhywun gwirioneddol anabl i orwedd arno fo, [ond] wnes i ddim clywed neb yn cwyno.

“Roedd hoist yna; byddwn yn meddwl bod hwnna’n help i bobol oedd angen defnyddio’r gwely newid.

“Doeddwn i ddim angen hwnnw fy hunan, ond byddwn yn meddwl fyddai hynny’n gallu bod yn help mawr i bobol.

“Roedd y rails ti’n gorfod gafael arnyn nhw i godi wedi’u gosod yn reit dda.

“Weithiau, mae o fel bod pobol yn dweud ‘Mae rhaid i ni gael rails, rhoddwn ni un yn fan yna, rhoddwn ni’r llall yn fan yna’, heb feddwl bod pobol actually eisiau gafael ynddyn nhw wrth godi.”

Ond roedd hi’n hapus ar y cyfan, meddai, yn enwedig gan fod Oliver Griffith-Salter, y Swyddog Hygyrchedd, ar y Maes i helpu pobol hefyd.

“Roedd e’n rhoi ei rif ffôn a chyfeiriad e-bost,” meddai.

“Os oedd rhywbeth yn codi yn ystod yr wythnos, roedd rhywun yn gallu cysylltu gydag e.

“Dim ond ers ychydig wythnosau oedd e yn y gwaith.

“Roeddwn yn meddwl, os yw e am helpu flwyddyn nesaf hefyd, bydd hyd yn oed yn well y flwyddyn nesaf.”