Gwyn Thomas mewn cylchgrawn yn Tsieina
Mari Siôn o Gyfnewidfa Lên Cymru sy’n trafod llwyddiant llenyddiaeth o Gymru yn Tsieina …

Ddechrau’r flwyddyn, detholwyd y gyfrol Collected Later Poems (1988-2000) gan R.S.Thomas i restrau cyfrolau’r flwyddyn nid yn unig bapur newydd y Beijing News ond y cylchgrawn IFeng yn ogystal.

Dyma’r ail gyfrol gan R.S. Thomas i’w chyfieithu i’r Tsieinëeg gan Jia Cheng, darlithydd Saesneg ym Mhrifysgol Jinan, sydd wedi bod yn cyfieithu gwaith y bardd ers dros ddegawd.

Cyfrolau gan awduron o Tsieina oedd y mwyafrif o’r llyfrau eraill ddetholwyd, ond ymysg cyfrolau gan awduron tramor i’w cynnwys roedd Less than One gan Joseph Brodsky, deiliad Gwobr Lenyddol Nobel a nofel newydd hir ddisgwyliedig Milan Kundera, The Festival of Insignificance.

Yn ôl Yuyao Li, dirprwy brif olygydd y cylchgrawn Tsieineaidd dylanwadol, Foreign Literature and Art, mae diddordeb mewn barddoniaeth wedi cynyddu yn sylweddol yn Tsieina dros y blynyddoedd diwethaf.

Pa syndod felly fod cerddi fel A Marriage ac Islands wedi cyfareddu cynulleidfa newydd yn Tsieina?

Cyfieithu’r Cymry

Ond, nid R.S yw’r unig lenor o Gymru i ddenu sylw darllenwyr yn Tsieina yn ddiweddar. Nôl yn 2013, dan olygyddiaeth Dr Yan Ying o Brifysgol Bangor, cyhoeddwyd rhifyn arbennig ar lenyddiaeth Cymru o Foreign Literature and Art, a hynny gyda chefnogaeth Cyfnewidfa Lên Cymru.

Yn y rhifyn, cyhoeddwyd cyfieithiadau Tsieinëeg o weithiau gan Angharad Price, Mihangel Morgan, Menna Elfyn, Gwyn Thomas,  Gwyneth Lewis a Robin Llywelyn i enwi dim ond rhai.

Yn sgil llwyddiant y rhifyn, ynghyd â thaith lwyddiannus i Gymru a chydweithio gyda’r Gyfnewidfa a Phrifysgol Bangor, penderfynodd cyhoeddwyr y cylchgrawn, Shanghai Translation Publishing House, i gyhoeddi cyfres arbennig o lenyddiaeth o Gymru mewn cyfieithiad.

Disgwylir mai’r nofel gyntaf yn y gyfres gan y wasg sy’n cyhoeddi’r nifer mwyaf o gyfrolau llenyddiaeth byd yn Tsieina fydd nofel gyntaf Francesca Rhydderch, The Rice Paper Diaries.

Nofel sydd wedi ei lleoli yn Hong Kong a Chymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac enillodd categori ffuglen Saesneg cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn y llynedd.

Efallai mai cyfrol Horatio Clare am deithio’r byd mewn llongau cargo, Down to the Sea in Ships fydd y gyfrol nesaf i fynd a bryd darllenwyr yn Tsieina.

Ddiwedd y mis fe fydd yr awdur o Bowys yn ymddangos gyda dros 120 o awduron o bob rhan o’r byd yng Ngŵyl Lenyddol y Bookworm yn Beijing.

Tra yn yr ŵyl fe fydd yn darllen ei waith, yn cynnal gweithdy ar ysgrifennu taith, yn ogystal â thrafod llenyddiaeth o Gymru gydag awduron o Falta a Georgia fel rhan o drafodaeth banel ar lenyddiaeth Ewrop.

Beth ydi cynghanedd a llongau cargo mewn Tsieinëeg tybed?