Morgan Owen
Fe greodd machlud haul Aberystwyth argraff ddofn ar Morgan Owen yn ddiweddar …

Fel bachgen o’r Cymoedd, cyfareddol o beth yw’r môr i mi, ac er agosed tref fy magwraeth i’r arfordir – cwta 25 milltir – prin ar y cyfan y gwelais y weilgi fawr yn laslanc, a phrinnach byth y’i gwelaf y dyddiau hyn, a minnau’n byw yng Nghaerdydd!

Hawdd y gellir deall, felly, fawredd y môr i un sy’n gyfarwydd â dyffrynnoedd sarffaidd Cwm Taf a chysgodion safadwy’r Bannau.

Onid yw’r môr yn gwrthod â gwên a gwawd ymgais ofer y ddynoliaeth i’w ddarostwng, fel y llwyddwyd gennym ddofi’r mynydd a’r iseldir?

Dichon mai yn y gwylltineb dihalog hwn y gorwedd rywfaint o swyn y môr, neu o leiaf i fab tref haearn lle mae pob dyrnaid o bridd a grefir o’r tir yn llawn o wehilion.

Dagrau gleision y ddaear, y sorod serw, a’r glasaf beth a geir ymysg y llwydi. Ond ni pherthyn unrhyw dlysni i sorod, a chamwedd fyddai ei gymharu â glesni’r môr.

Afraid dweud, ni all neb adael ei farc ar donnau’r eigion fel y creithiwyd y Cymoedd, na chorlannu’i eangderau, ac yn hyn o beth, mae iddo ogoniant dychrynllyd braidd.

Dyma’r hyn a gredwn o hyd, ond bellach, mae fy hoffter, ac weithiau, parchedig ofn, o’r môr yn ddyfnach, ac mi draethaf yma’r rheswm pam.

Machlud Aberystwyth


Y gorwel yn Aberystwyth wrth iddi ddechrau machlud
Benwythnos diwethaf, mi fûm yn Aberystwyth ar gyfer y Ddawns Ryng-golegol, a phryd hynny, ni welaswn y môr ers rhyw dipyn o amser.

Croesewais yn llon gyfnewid aer merfaidd y brifddinas am yr awyr hallt, ac yn wir, roeddwn yn llawn cyffro a gwefr i fod yn ailymweld â’r dref hynod honno sydd â lle arbennig iawn ynof.

Llefared rhywun arall am firi nosweithiau’r penwythnos hwnnw; soniaf innau am weld y machlud dros Fôr yr Iwerydd, a’r argraff ddofn a adawyd arnaf ganddo.

Wrth i’r pnawn dynnu tua’i derfyn arwisgwyd y dref â gwawl euraidd wrth i’r haul gychwyn ar ei daith i lawr y tu ôl i’r môr, ac wedi diwrnod o grwydro cafodd fy nghariad a minnau ein hunain ger adfeilion y castell, yn edrych dros y tonnau.

Erbyn yr amser hwnnw llenwyd y gorllewin â llewyrch eiriaswyn wrth i’r haul ddechrau cyffwrdd, fel petai, â wyneb yr eigion, a chan fod y gaeaf ar ein gwarthaf, buan y nychai’r goleuni.

Geiriau T. Gwynn Jones

Gellid bron â bod canfod yr haul yn suddo, a chyda phob eiliad, dwysaodd arlliw eurdde’r machlud ac fe ddaeth i mi’r llinellau canlynol o gerdd T. Gwynn Jones, Tirna-nOg: “Lliwiwyd y maith orllewin / I gyd ag aur, gwaed a gwin; / Mor dyner yw’r môr danom”.

Nid rhyfedd i gyfeiriadau i’r machlud fritho’r gerdd honno; deallais i’r dim yr ennyd honno ei brydferthwch, a hefyd dyna oedd y tro cyntaf i mi weld y ddeubeth hynny, môr a machlud, gyda’i gilydd.

Dyrchafwyd y weilgi yn fy nychymyg wrth iddi adlewyrchu marwor y machlud. Roeddwn eisoes yn ymwybodol o nerth y môr a’i gwylltineb na ellir mo’i ffrwyno, ond yn ei fantell eurgoch, gwelais ei ochor arall, ac mae swyn y môr bellach yn gyflawn, a mwy cytbwys, i mi.

Ond yn bennaf oll, hynodrwydd mwyaf y profiad oedd ei rannu.

Adre, yr wyf yn gyfarwydd â chrwydro a rhedeg y mynyddoedd ar fy mhen fy hun a mwynhau’r rhyddid y rhydd hwnnw, ond hyd yn oed bryd hynny, teimlwn mai siom ydoedd mai dim ond fy llygaid i oedd yn gwledda ar harddwch y dydd yn ildio’i le i nos.

Ond y Sadwrn hwnnw yn Aberystwyth, syllodd ddau bâr o lygaid ar y machlud dros y môr, a theimlais ogoniant nad oes modd ei ddisgrifio.

Mae Morgan Owen yn astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.