Bob Delyn a'r Ebillion
Elis Llwyd Dafydd sydd yn pendroni i ba raddau y mae’n dderbyniol i feirdd a llenorion addasu geiriau’r awdur gwreiddiol.
Nos Wener Gŵyl Farddoniaeth Tŷ Newydd (gŵyl drwyadl wych, gyda llaw) yng ngwesty’r Marine, Cricieth, ac mae Bob Delyn wrthi’n canu’r gân Sŵn – y geiriau gan Iwan Llwyd, a’r gerddoriaeth gan Twm Morys.
Mae amryw yn y gynulleidfa, a finnau yn eu plith, yn sibrwd canu ac yn distaw adrodd y geiriau wrth i’r gân fynd rhagddi. Wrth glywed y geiriau “Dyna’r sŵn sy’n gyrru rhywun…” dwi’n stopio, ac yn gwrando’n astud, a hynny am nad ydw i byth yn cofio ai “… gam yn nes tuag at y dibyn” neu “… gam yn nes at ymyl dibyn” ydi’r geiriau.
“Gam yn nes tuag at y dibyn” sy’n dod o enau Twm Morys, ac erbyn sbïo yn Iwan, ar daith ar ôl cyrraedd adra, dyna oedd ar y cerdyn post a anfonodd Iwan o São Paulo efo geiriau’r gân arnyn nhw hefyd. Popeth yn dda.
Awgrym bach
Ond am ryw reswm, dwi’n meddwl fod “…gam yn nes at ymyl dibyn” yn swnio’n well. Dwn i ddim pam – efallai am fod “ymyl dibyn” yn swnio fel petai’r dibyn yn nes, a’r cwymp i’r gwaelod yn fwy anochel.
Dydi hi fawr o ots mewn gwirionedd – dydi hi ddim yn ddiwedd y byd os ydw i’n llithro wrth fwmian y gân wrth fy hun o dro i dro (roedd Iwan yn aml yn camddyfynnu un o linellau John Lennon fel “a certain kind of innocence is measured out in miles” yn hytrach na’r “some kind of innocence is measured out in years” gwreiddiol), ac wrth i straeon symud a newid o glust i glust, o oes i oes ac o feddwl i feddwl y mae chwedlau’n cael eu creu.
O ystyried natur lafar hen farddoniaeth Gymraeg, lle’r oedd mynachod ac ati yn ysgrifennu cerddi’r beirdd gan weithio, yn aml, o’u cof, sgwn i sawl hen gerdd Gymraeg sy’n dal ar glawr sydd air neu ddau’n wahanol i’r hyn a gyfansoddodd y beirdd yn wreiddiol oherwydd i gof y copïydd ballu?
Llithriadau ydi’r rheiny, ond beth os oes rhywun yn newid geiriau person arall yn fwriadol ac at ei ddiben ei hun? Beth sy’n gyfeiriadaeth dderbyniol, a beth sy’n cymryd libyrtis haerllug?
Beirdd yn benthyg
Yn ystod y noson dywedodd Twm Morys ei fod o wedi bod yn dwyn yn ddigywilydd o chwarel yr Hen Benillion erioed. Ystyriwn ei farwnad i Iwan Llwyd lle mae dwy linell gyntaf y pennill cyntaf yn dod o hen bennill, a’r ddwy linell olaf wedi’u hychwanegu ganddo fo:
Y deryn du a’i bluen sidan
A’i big aur a’i dafod arian,
Mi est i’r dyffryn o fy mlaen,
Yn gynt na’r bwtsias o ledar Sbaen.
Digon derbyniol, ddywedwn i. Y rheswm pam rydw i’n meddwl am hyn ydi oherwydd Treginnis, un o ganeuon Iwan Llwyd. (Gallwch wrando arni yma). Mae’r geiriau’n mynd:
Dim ond llanw ar droi,
Dim ond trai’n gadael tir,
Dim ond geiriau hen gariad
Yn dod nôl cyn bo hir.
Yn fy marn i byddai newid y ddwy linell olaf i “Dim ond celwydd hen gariad / Yn dod nôl fel y gwir” yn llawer mwy ysgytwol, ac yn cryfhau’r gân yn arw.
Dydi’r geiriau heb eu cyhoeddi hyd yn hyn, ond os cyhoeddir nhw yna’r fersiwn wreiddiol gaiff eu cyhoeddi am wn i a does gen i ddim gwrthwynebiad i hynny o gwbl.
Ond mae yn codi’r cwestiwn, wrth olygu geiriau rhywun nad ydyn nhw efo ni bellach, beth sy’n fireinio diniwed, a ble mae’r awdurdod i wneud newidiadau’n gorffen?
Mae Elis yn ei drydedd flwyddyn yn astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Gallwch ei ddilyn ar Twitter ar @elisdafydd.