Mae eglwys Gymraeg yng Nghanada yn chwilio am weinidog newydd ar Faes yr Eisteddfod.

“R’yn ni newydd gael y caniatad gan Bwyllgor yr Eglwys i hysbysebu’r swydd sydd bellach yn wag ers bron i ddwy flynedd,” meddai Hefina Phillips, sy’n dod yn wreiddiol o Gwmgiedd yng Nghwm Tawe ond sy’n byw yn ardal Toronto ers dros 30 mlynedd.

“R’yn ni’n chwilio am rywun fydd yn tyfu’r eglwys, yn arwain ein haddoliad ni, ond hefyd yn cyfrannu at y bywyd Cymraeg a Chymreig. Ar hyn o bryd mae ganddon ni tua 250 o aelodau.”