Mae’r Heddlu De Cymru a swyddogion diogelwch yr Eisteddfod yn edrych ar gamerâu cylch cyfyng ar ôl cyfres o ladradau ar y Maes yn hwyr neithiwr.
Does dim cyhoeddiad hyd yn hyn am gynnydd yn y mesurau diogelwch ar ôl i rywun ddefnyddio llafn miniog i dorri i mewn i nifer o unedau a dwyn offer ac arian.
“Mae cyfanswm o ddeuddeg o bobl ddiogelwch ar y Maes bob noson, a dau arall wrth gefn,” meddai’r Eisteddfod mewn datganiad.