Gwenno Ffrancon
Mae cronfa wedi ei lansio i barhau gyda gwaith un o enwogion yr Eisteddfod Genedlaethol.

Roedd y cyflwynydd teledu, Huw Edwards, ar y Maes i agor yr apêl ar gyfer Ysgoloriaeth yn enw ei ddiweddar dad, Hywel Teifi. “Hybu defnydd eang o’r iaith oedd prif nod fy nhad,” meddai.

Fe fydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i noddi myfyriwr ymchwil PhD yn rhai o’r meysydd yr oedd yr hanesydd a’r beirniad yn cymryd diddordeb ynddyn nhw ac i godi cofeb “deilwng” iddo yn Academi Hywel Teifi ym Mhrifysgol Abertawe.

‘Buddsoddiad gwerthfawr’

“Mae cysgod Hywel Teifi yn drwm o hyd dros yr iaith,” meddai Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr yr Academi. “Ac fydd yna ddim prinder o feysydd difyr i’w hastudio.”

Roedd hi’n sefyll o flaen llun o wyneb Hywel Teifi – wedi ei greu o rai o’r geiriau oedd bwysica’ iddo.

Yn ôl Huw Edwards, roedd y llun yn hollol gywir wrth gael The Arsenal nesa’ at galon ei dad. Roedd yna eiriau ar goll hefyd, meddai – rhai y byddai’n amhosib eu rhoi ar lun cyhoeddus.

Fe apeliodd ar bobol i gyfrannu at y gronfa – “Fe fyddwn ni fel teulu’n cyfrannu, wrth gwrs,” meddai. “Rwy’n mawr obeithio y bydd pobol sy’n fodlon cydweld â’r weledigaeth. Fe fydd yn fuddsoddiad gwerthfawr.

“Y nod iddo fe (Hywel Teifi) oedd gwneud defnydd o’r Gymraeg yn beth cwbl naturiol.”