Mae angen cael gwared ar ‘buryddiaeth’ sy’n atal pobol rhag defnyddio’r Gymraeg, meddai sylfaenydd mudiad iaith newydd.
“Fe all Cymraeg sipris fod yn offeryn allweddol wrth alluogi pobol i ddefnyddio’r iaith,” meddai’r cyn-AS Cynog Dafis ar ôl traddodi darlith i lansio mudiad Arddel yn yr Eisteddfod
Y nod, meddai, yw gwneud y Gymraeg yn gwbl normal – bod pobol yn disgwyl ei defnyddio hi a’i chlywed hi a dod o hyd i bethau y gall pobol ar bob lefel ei wneud. Cam allweddol, meddai, fydd concro diffyg hyder.