Stori am ddihangfa ryfeddol ei thad ei hun a ysbrydolodd y nofelydd Angharad Tomos i ennill gwobr am gyfieithu ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol.

Y dasg oedd cyfeithu nofel i blant am fachgen yn colli ei dad mewn ffrwydrad trên … ym Mhalesteina adeg yr Ail Ryfel Byd, roedd Ariel Tomos wedi colli trên oedd yn cario rhai o’i gyd-filwyr a’i gyfeillion – fe gafodd nifer eu lladd mewn ffrwydrad ar yr union drên.

Fe dderbyniodd Angharad Tomos Ffon Pencerdd Tŷ Cyfieithu Cymru gan y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt.