Am y tro cynta’ erioed, mae aelodau o’r Orsedd wedi cael eu derbyn dan drefn wahanol fwy cyfartal.
Y 29 ar y Maes heddiw oedd y cynta’ i gael eu dosbarthu rhwng gwisgoedd glas a gwyrdd yn ôl eu cefndir – gwyrdd i’r celfyddydau a glas i feysydd eraill.
O hyn ymlaen, fydd neb o’r rheiny’n gallu cael eu codi i Wisg Wen – dim ond prif enillwyr yr Eisteddfod ei hun fydd yn cael honno.
Roedd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, a’r cyn-chwaraewr pêl-droed, John Hartson, ymhlith y Derwyddon newydd.