Roedd yna ganmoliaeth uchel i’r cyfansoddwr Geraint Hughes wrth iddo gipio Tlws y Cerddor ym Mro Morgannwg neithiwr gyda sonata i’r delyn a’r ffliwt.
Yn ôl y beirniaid, Richard Elfyn Jones a Deian Rowlands, roedd “ei fys ar byls y syniadau diwedaraf”, gyda sonata tri symudiad wedi eu seilio ar delyneg John Morris Jones, Cŵyn y Gwynt.
Catrin Finch oedd y delynores wrth i un symudiad o’r gwaith gael ei chwarae yn y pafiliwn.
Mae Geraint Hughes o Gaerdydd yn ennill gwobr o £500 ac ysgoloriaeth gwerth £2,000.