Fe ddylai plant mewn ysgolion cynradd feistroli tair iaith yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood – Saesneg, Cymraeg ac un iaith arall.

Ar y maes ddydd Gwener fe fydd hi’n dadlau bod angen gwneud hyn yn gynnar gan alw am sefydlu ‘Academi iaith’ i ymchwilio i’r ffordd orau o ddysgu ieithoedd a gwella sgiliau athrawon.

“Dw i eisiau i bawb gael cyfle i fod yn dairieithog,” meddai. “Rhaid cyflwyno’r Gymraeg ac iaith arall yn gynharach i bawb, yn y cyfnod cynradd ac yn rhan o wasanaeth gofal plant cyffredinol.”