Doedd neb yn deilwng o Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg eleni.
Fe fentrodd 8 i’r gystadleuaeth, ond doedd dim posib gwobrwyo’r un o’r cyfrolau heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun ‘Mudo’.
“Er i ni bendroni llawer ac ystyried pob posibilrwydd, daethom i’r casgliad anochel nad oedd gennym ddewis ond atal y Fedal eleni,” meddai Gwerfyl Pierce Jones, a oedd yn cyd-feirniadu ag Aled Islwyn a Fflur Dafydd.