Powlen o bridd yr Hendre
Mae artist yn arddangos gwaith ar y Maes sydd wedi ei greu gyda phridd o dir fferm enwoca’ llenyddiaeth Cymru.

Mae crochenwaith Peter Wills o Ben-y-bont ar Ogwr yn cynnwys platiau, cwpanau a fasiau mewn lliw brown a gwyn sy’n cynnwys pridd o fferm y diweddar Archdderwydd Dic Jones ym Mlaenannerch, Ceredigion.

“Yn y llestri, mae smotiau wedi ffurfio, ac r’yn ni wedi’u bedyddio’n ‘frech yr Hendre’,” meddai.