Adeilad y Gymraeg
Fe fydd ail-strwythuro oddi mewn i Brifysgol Aberystwyth yn gwasgu Adran y Gymraeg. Dyna ofn mwya’ rhai myfyrwyr sydd wedi lansio papur newydd Cymraeg ar Faes Eisteddfod Bro Morgannwg.

Yn rhifyn blasu Yr Heriwr, mae erthygl yn tynnu sylw at ddogfen ‘Llunio ein Dyfodol’ sy’n argymell cael gwared â’r 17 o adrannau traddodiadol, a’u grwpio nhw dan saith ‘adran ymbarel’.

Dan y drefn newydd, byddai un Pennaeth Adran yn gyfrifol am reoli cyllid Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu; Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol; yr Ysgol Gelf; adran y Gymraeg; a Chanolfan y Celfyddydau.