Mae cyfrol gyfansoddiadau 2012 yn cynnwys y nifer mwyaf erioed o eiriau, yn ôl y Golygydd sydd wedi bod yn gyfrifol am 20 ohonyn nhw.
Ers gweithio ar ei gyfrol gyntaf yn Y Rhyl yn 1985, fe fu J Elwyn Hughes yn golygu pob un o gyfrolau’r Gogledd tan y flwyddyn 1999, cyn cael ei benodi yn 2000 yn Olygydd bob blwyddyn.
“Mae cyfrol eleni ar ben 300 tudalen, ac mae’n cynnwys 112,000 gair,” meddai J Elwyn Hughes, sy’n gwrthod rhannu dim o gyfrinachau’r gyfrol. “Dw i’n gweld enillwyr ar y Maes, ond fedra’ i ddim dweud dim byd wrthyn nhw… “