Fe fyddai Matthew Rhys wrth ei fodd yn cael actio eto yn Gymraeg, meddai wrth Golwg 360.
Ac roedd wrth ei fodd o gael bod yn yr Eisteddfod yn agos at ei ardal ei hun a gweld datblygiad ysgolion Cymraeg yn yr ardal.
“Mae hynny’n galonogol iawn,” meddai, ar ôl beirniadu cystadleuaeth y ddeialog ddoe a dweud bod y safon “yn wych”.
“Roedd mwy na thri ohonyn nhw’n deilwng.”