Roedd trefniadau traffig Eisteddfod Bro Morgannwg eleni yn “sialens” i Gyngor Sir Bro Morgannwg – a hynny oherwydd yr holl ffyrdd bach, cul yn yr ardal.
Ond mae cyfuniad o drenau, bysiau a bysus gwennol wedi tawelu ychydig ar y tagfeydd posib, yn ôl Rob Thomas o’r awdurdod lleol.
“Un sialens oedd y ffaith fod yr ardal hon yn eitha’ pell o’r draffordd,” meddai, “felly roedd yn rhaid meddwl am ddulliau gwahanol. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y cyfuniad o wahanol fathau o drafnidiaeth yn gweithio’n dda tan ddiwedd yr wythnos.”