Cadwriaethwraig o ardal Caernarfon oedd y bardd yr oedd un o’r beirniaid am ei choroni ddydd Llun.
Coron Gwyneth Lewis

Elinor Gwynn, sy’n gweithio i Gyngor Cefn Gwlad Cymru, oedd y bardd gorau yng nghystadleuaeth Y Goron, yn ôl y Prifardd Penri Roberts.

“Mae’r dilyniant o gerddi’n sôn am ffrae rhwng dau, a sut mae hynny’n creu dwy ynys o fewn y cartre’,” meddai Elinor Gwynn wrth Golwg360.

Mab Elinor, Steffan Gwynn, oedd yn ail am Gadair Eisteddfod yr Urdd yn Eryri ddechrau Mehefin.